
2015 Rhif 1831 (Cy. 267) (C. 115)
Tai, Cymru
Diogelu Defnyddwyr, Cymru
Gorchymyn Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2015
Gwnaed 21 Hydref 2015
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddwyd gan adran 100(3)(b) o Ddeddf Hawliau Defnyddwyr 2015, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2015.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 21 Hydref 2015
2 
Mae Pennod 3 o Ran 3 o’r Ddeddf yn dod i rym ar 21 Hydref 2015 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym.
3 
Mae Atodlen 9 i’r Ddeddf yn dod i rym ar 21 Hydref 2015 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, un o Weinidogion Cymru
21 Hydref 2015