
2015 rhif 1823 (Cy. 265)
Plant A Phersonau Ifanc, Cymru
Rheoliadau Ymweliadau â Phlant dan Gadwad (Cymru) 2015
Gwnaed 21 Hydref 2015
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 23 Hydref 2015
Yn dod i rym 6 Ebrill 2016
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 97(1)(b) ac (c), (2) a (4) a 196(2) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ymweliadau â Phlant dan Gadwad (Cymru) 2015 a deuant i rym ar 6 Ebrill 2016.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “A” (“A”) yw plentyn—
(a) a fu’n derbyn gofal gan awdurdod lleol ond a beidiodd â derbyn gofal ganddo o ganlyniad i’r amgylchiadau a ragnodir yn rheoliad 3, neu
(b) yn ddarostyngedig i reoliad 2(2), plentyn sy’n dod o fewn categori a bennir yn rheoliad 4;
 ystyr “awdurdod lleol cyfrifol” (“responsible local authority”) yw—
(a) pan fo A yn dod o fewn rheoliad 3, yr awdurdod lleol a oedd yn gofalu am A yn union cyn rhoi A dan gadwad,
(b) pan fo A yn dod o fewn rheoliad 4—
(i) os yw A yn preswylio fel arfer yng Nghymru, yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal y mae A yn preswylio ynddi fel arfer, a
(ii) mewn unrhyw achos arall, yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal y lleolir ynddi’r sefydliad y mae A dan gadwad ynddo neu’r fangre y mae’n ofynnol bod A yn preswylio ynddi;
 ystyr “Deddf 1989” (“the 1989 Act”) yw Deddf Plant 1989;
 ystyr “Deddf 2012” (“the 2012 Act”) yw Deddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012;
 ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;
 ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod ac eithrio dydd Sadwrn, dydd Sul, Dydd Nadolig, dydd Gwener y Groglith neu ŵyl banc yn yr ystyr a roddir i “bank holiday” gan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971;
 ystyr “R” (“R”) yw cynrychiolydd yr awdurdod cyfrifol, sy’n ymweld ag A yn unol â threfniadau a wneir gan yr awdurdod o dan adran 97 o Ddeddf 2014;
 ystyr “rheolwr achos tîm troseddwyr ifanc perthnasol” (“relevant youth offending team case manager”) yw’r person o fewn tîm troseddwyr ifanc yr awdurdod lleol sy’n rheoli achos A;
 ystyr “sefydliad” (“institution”) yw llety cadw ieuenctid neu garchar;
 mae i “tîm troseddwyr ifanc” (“youth offending team”) yr ystyr a roddir yn adran 39(1) o Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998.
(2) Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys i blentyn sydd—
(a) yng ngofal awdurdod lleol yng Nghymru;
(b) yng ngofal awdurdod lleol yn Lloegr;
(c) yn berson ifanc categori 2;
(d) yn blentyn perthnasol yn yr ystyr a roddir i “relevant child” at ddibenion adran 23A o Ddeddf 1989; neu
(e) yn blentyn a fu gynt yn derbyn gofal ac, ar ôl ei gollfarnu o drosedd gan lys, sydd dan gadwad mewn llety cadw ieuenctid neu garchar neu sy’n preswylio mewn mangre a gymeradwywyd, ac, yn union cyn ei gollfarnu, y darparwyd llety iddo gan awdurdod lleol yn Lloegr o dan adran 20 o Ddeddf 1989.
Amgylchiadau a bennir at ddibenion adran 97(1)(b) o Ddeddf 2014
3 
Yr amgylchiadau a ragnodir at ddibenion adran 97(1)(b) o Ddeddf 2014 yw bod plentyn, ar ôl ei gollfarnu o drosedd gan lys—
(a) dan gadwad, yn unol â gorchymyn gan lys, mewn llety cadw ieuenctid neu mewn carchar, neu
(b) yn preswylio mewn mangre a gymeradwywyd.
Categorïau a bennir at ddibenion adran 97(1)(c) o Ddeddf 2014
4 

(1) Y categorïau a bennir at ddibenion adran 97(1)(c) o Ddeddf 2014 yw’r canlynol—
(a) plentyn, sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru, sydd, ar ôl ei gollfarnu o drosedd gan lys—
(i) dan gadwad mewn llety cadw ieuenctid, neu mewn carchar, neu
(ii) yn preswylio mewn mangre a gymeradwywyd; a
(b) plentyn sydd, ar ôl ei gollfarnu o drosedd gan lys,—
(i) dan gadwad mewn llety cadw ieuenctid neu mewn carchar yng Nghymru, neu
(ii) yn preswylio mewn mangre a gymeradwywyd yng Nghymru.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â phlentyn sy’n dod o fewn disgrifiad a nodir yn is-baragraffau (a) i (e) o reoliad 2(2).
Yr awdurdod lleol a bennir at ddibenion adran 97(2) o Ddeddf 2014
5 

(1) Mae paragraff (2) yn pennu, yn unol ag adran 97(2) o Ddeddf 2014, yr awdurdod lleol y mae’n rhaid iddo gyflawni’r dyletswyddau a osodir gan adran 97 o Ddeddf 2014 neu o dan y Rheoliadau hyn mewn perthynas â phlentyn sy’n dod o fewn categori a bennir yn rheoliad 4.
(2) Pan fo plentyn yn dod o fewn categori a bennir yn—
(a) rheoliad 4(1)(a), yr awdurdod lleol y mae’r plentyn yn preswylio fel arfer yn ei ardal;
(b) rheoliad 4(1)(b), yr awdurdod lleol y lleolir ynddo’r llety cadw ieuenctid, carchar neu fangre a gymeradwywyd.
Amlder ymweliadau
6 

(1) Rhaid i’r awdurdod lleol cyfrifol sicrhau bod R yn ymweld ag A—
(a) o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl rhoi A dan gadwad gyntaf, i’r graddau y mae hynny’n rhesymol ymarferol; a
(b) wedi hynny pa bryd bynnag y gofynnir yn rhesymol iddo ymweld gan—
(i) A,
(ii) aelod o staff y sefydliad y mae A dan gadwad ynddo, neu’r fangre a gymeradwywyd lle mae A yn preswylio,
(iii) unrhyw riant A, neu unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant am A, neu
(iv) y rheolwr achos tîm troseddwyr ifanc perthnasol.
(2) Caiff yr awdurdod lleol cyfrifol drefnu i R wneud ymweliadau ychwanegol ag A, gan roi sylw i unrhyw argymhelliad a wneir gan R yn unol â rheoliad 8(1)(b).
Cynnal yr ymweliadau
7 
Yn ystod pob ymweliad, rhaid i R siarad gydag A yn breifat oni bai—
(a) bod A yn gwrthod, ac yntau mewn oedran digonol a chyda dealltwriaeth ddigonol i wneud hynny,
(b) bod R o’r farn y byddai gwneud hynny’n amhriodol, o ystyried oedran a dealltwriaeth A, neu
(c) bod R yn analluog i wneud hynny.
Adroddiadau am ymweliadau
8 

(1) Rhaid i R ddarparu adroddiad ysgrifenedig am bob ymweliad, a rhaid i’r adroddiad gynnwys—
(a) asesiad R, ar ôl ystyried safbwyntiau, dymuniadau a theimladau A, ynglŷn ag a yw llesiant A yn cael ei ddiogelu a’i hyrwyddo’n ddigonol tra bo dan gadwad neu’n preswylio mewn mangre a gymeradwywyd,
(b) argymhellion R ynglŷn ag amseriad ac amlder unrhyw ymweliadau pellach gan R,
(c) unrhyw drefniadau eraill y tybia R y dylid eu gwneud er mwyn hyrwyddo cyswllt rhwng A a theulu A, neu er mwyn diogelu a hyrwyddo llesiant A,
(d) asesiad R o’r modd y dylai llesiant A gael ei ddiogelu a’i hyrwyddo’n ddigonol ar ôl ei ryddhau o gadwad, neu ddiddymu’r gofyniad i breswylio mewn mangre a gymeradwywyd, sef yn benodol—
(i) a fydd angen i’r awdurdod lleol cyfrifol, awdurdod lleol arall, neu awdurdod lleol yn Lloegr ddarparu llety i A, a
(ii) a ddylai unrhyw wasanaethau eraill gael eu darparu, gan yr awdurdod lleol cyfrifol neu awdurdod lleol arall wrth arfer eu dyletswyddau o dan Ddeddf 2014 neu Ddeddf 1989, neu gan awdurdod lleol yn Lloegr o dan Ddeddf 1989.
(2) Rhaid i R, wrth wneud unrhyw asesiad o dan baragraff (1), ac eithrio pan nad yw’n rhesymol ymarferol gwneud hynny, neu pan nad yw gwneud hynny yn gyson â llesiant A, gymryd i ystyriaeth safbwyntiau—
(a) unrhyw riant A, neu unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant am A, a
(b) aelodau priodol o staff y sefydliad y mae A dan gadwad ynddo, neu o staff y fangre a gymeradwywyd y mae A yn preswylio ynddi.
(3) Rhaid i’r awdurdod lleol cyfrifol roi copi o’r adroddiad i—
(a) A, oni fyddai’n amhriodol gwneud hynny,
(b) person sy’n dod o fewn paragraff (2)(a), ac eithrio pan na fyddai gwneud hynny er budd pennaf A,
(c) llywodraethwr, cyfarwyddwr neu reolwr cofrestredig y sefydliad lle mae A dan gadwad neu’r person sy’n gyfrifol am y fangre a gymeradwywyd y mae A yn preswylio ynddi,
(d) y rheolwr achos tîm troseddwyr ifanc perthnasol,
(e) os yw’n wahanol i’r awdurdod lleol cyfrifol, awdurdod lleol yr ardal y mae A dan gadwad ynddi, ac
(f) unrhyw berson arall y tybia’r awdurdod lleol cyfrifol y dylid rhoi copi o’r adroddiad iddo, o ystyried asesiad R.
Cyngor a chymorth arall
9 
Wrth wneud trefniadau yn unol ag adran 97(3)(b) o Ddeddf 2014 ar gyfer rhoi cyngor priodol a chymorth arall ar gael i A, rhaid i’r awdurdod lleol cyfrifol sicrhau—
(a) bod y trefniadau—
(i) yn briodol, o ystyried oedran a dealltwriaeth A, a
(ii) yn rhoi ystyriaeth ddyladwy i argyhoeddiad crefyddol, tarddiad hiliol, cefndir diwylliannol ac ieithyddol A ac unrhyw anabledd sydd gan A, a
(b) i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol, o ystyried oedran a dealltwriaeth A, fod A yn gwybod sut i ofyn am gyngor priodol a chymorth arall gan yr awdurdod cyfrifol
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
21 Hydref 2015