
2015 Rhif 1821 (Cy. 263)
Tai, Cymru
Rheoliadau Gweithdrefnau a Ffioedd Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) (Diwygio) 2015
Gwnaed 21 Hydref 2015
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 4 Tachwedd 2015
Yn dod i rym 23 Tachwedd 2015
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a freiniwyd ynddynt hwy gan adran 250(2) o Ddeddf Tai 2004 ac Atodlen 13 iddi.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gweithdrefnau a Ffioedd Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) (Diwygio) 2015 a deuant i rym ar 23 Tchwedd 2015.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i achosion gerbron tribiwnlysoedd eiddo preswyl ar gyfer penderfynu ceisiadau mewn cysylltiad â mangreoedd yng Nghymru.
Diwygio Rheoliadau Gweithdrefnau a Ffioedd Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) 2012
2 
Mae Rheoliadau Gweithdrefnau a Ffioedd Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) 2012 wedi eu diwygio yn unol â’r Atodlen.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, un o Weinidogion Cymru
21 Hydref 2015
YR ATODLEN
Diwygio Rheoliadau Gweithdrefnau a Ffioedd Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) 2012
Rheoliad 2
1 
Yn rheoliad 2—
(a) yn y mannau priodol mewnosoder—“
 ystyr “Deddf 2015” (“the 2015 Act”) yw Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015;”;“
 ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Tai (Cymru) 2014;”;
(b) yn y diffiniad o “cais”—
(i) ar ddiwedd paragraff (c) hepgorer “neu”;
(ii) ar ddiwedd paragraff (ch), yn lle “,” rhodder “;”; a
(iii) ar ôl paragraff (ch), mewnosoder—“
(d) adrannau 17(4) neu 27(1) o Ddeddf 2014; neu
(dd) Deddf 2015,”;
(c) yn y mannau priodol mewnosoder—“
 mae i “asiant gosod”, mewn cysylltiad â chais a wneir o dan Ddeddf 2015, yr un ystyr â “letting agent” yn adran 84 o Ddeddf 2015;”;“
 mae i “awdurdod pwysau a mesurau lleol” mewn cysylltiad â chais a wneir o dan Ddeddf 2015, yr un ystyr â “local weights and measures authority” yn adran 69(2) o Ddeddf Pwysau a Mesurau 1985;”;“
 mae i “awdurdod trwyddedu” (“licensing authority”) yr un ystyr ag yn adran 49(1) o Ddeddf 2014;”;“
 mae i “landlord” (“landlord”), at ddibenion ceisiadau o dan adrannau 17(4) neu 27(1) o Ddeddf 2014, yr un ystyr ag yn adran 2(1) o’r Ddeddf honno;”; ac
(d) yn y diffiniad o “mangre”—
(i) ym mharagraff (a) ar ôl “Deddf 2013” mewnosoder “neu Ddeddf 2015” ac ar ddiwedd paragraff (a) hepgorer y gair “a”;
(ii) ar ddiwedd paragraff (b) mewnosoder y gair “ac”; a
(iii) ar ôl paragraff (b) mewnosoder—“
(c) mewn cais a wneir o dan Ddeddf 2015, unrhyw fangre y dylai cyhoeddusrwydd fod wedi ei roi yno i ffi’r asiant gosod y mae cais yn ymwneud â hi;”.
2 
Yn rheoliad 4(1), ar ôl “Deddf 2013,” mewnosoder “Deddf 2014”.
3 
Yn rheoliad 14(1)—
(a) ar ddiwedd is-baragraff (b)(ii) yn lle “.” rhodder “;”;
(b) ar ôl is-baragraff (b)(ii) mewnosoder—“
(c) yn achos cais a wnaed o dan Ddeddf 2014—
(i) yn ymwneud â materion cysylltiedig ynglŷn â’r un landlord;
(ii) yn ymwneud â materion cysylltiedig ynglŷn â’r un annedd; neu
(iii) yn ymwneud â materion cysylltiedig ynglŷn â’r un asiant sydd wedi ei drwyddedu o dan adran 9 neu adran 11 o Ddeddf 2014;
(ch) yn achos cais a wnaed o dan Ddeddf 2015 yn ymwneud â materion cysylltiedig ynglŷn â’r un asiant gosod.”
4 
Yn rheoliad 40(5), ar ôl “Deddf 2013” mewnosoder “, Deddf 2014, Deddf 2015”.
5 
Ar ôl rheoliad 47, mewnosoder—“
Ffioedd am geisiadau a wneir o dan Ddeddf 2014
47A. 
Yn ddarostyngedig i reoliad 49(2) mae ffi o £155 yn daladwy am gais i dribiwnlys o dan ddarpariaethau canlynol Deddf 2014—
(a) adran 17(4) (dirymu cofrestriad);
(b) adran 27(1) (apelau trwyddedu).
Ffioedd am geisiadau a wneir o dan Ddeddf 2015
47B. 
Yn ddarostyngedig i reoliad 49(2) mae ffi o £155 yn daladwy am gais i dribiwnlys o dan baragraff 5 o Atodlen 9 i Ddeddf 2015.”
6 
Yn rheoliad 48, yn lle “neu 47” rhodder “, 47, 47A neu 47B”.
7 
Yn rheoliad 49—
(a) ym mharagraff (1), yn lle “neu 47” rhodder “, 47, 47A neu 47B”; a
(b) ym mharagraff (2), yn lle “neu 47” rhodder “, 47, 47A neu 47B”.
8 
Yn rheoliad 50(1), yn lle “neu 47” rhodder “, 47, 47A neu 47B”.
9 
Yn yr Atodlen, ar ôl paragraff 72 mewnosoder—“
Ceisiadau a wneir o dan Ddeddf 2014
Ceisiadau sy’n ymwneud â dirymu cofrestriad landlord
73. 

(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais a wneir o dan adran 17(4) o Ddeddf 2014 (apêl yn erbyn dirymu cofrestriad).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a) copi o’r hysbysiad o fwriad yr awdurdod trwyddedu i ddirymu cofrestriad a’r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw;
(b) unrhyw sylwadau a wnaed gan y landlord mewn ymateb i hysbysiad o fwriad yr awdurdod trwyddedu i ddirymu cofrestriad;
(c) copi o’r hysbysiad sy’n dirymu cofrestriad y landlord a’r rhesymau a roddwyd gan yr awdurdod trwyddedu; ac
(ch) unrhyw ddogfennau perthnasol eraill sy’n ategu’r cais.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r awdurdod trwyddedu.
Ceisiadau sy’n ymwneud ag apelau trwyddedu
74. 

(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 27(1) o Ddeddf 2014.
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a) copi o’r hysbysiad o fwriad yr awdurdod trwyddedu i ddiwygio neu ddirymu’r drwydded neu i wneud y drwydded yn ddarostyngedig i amod, yn ôl y digwydd, a’r rhesymau dros ei benderfyniad;
(b) unrhyw sylwadau a wnaed mewn ymateb i hysbysiad o fwriad yr awdurdod trwyddedu i ddiwygio neu ddirymu’r drwydded;
(c) copi o’r hysbysiad sy’n gwneud y drwydded yn ddarostyngedig i amod (ac eithrio gofyniad i gydymffurfio â chod ymarfer a ddyroddwyd gan Weinidogion Cymru), sy’n gwrthod rhoi, sy’n diwygio neu’n dirymu’r drwydded, yn ôl y digwydd, a’r rhesymau a roddwyd gan yr awdurdod trwyddedu; ac
(ch) unrhyw ddogfennau perthnasol eraill sy’n ategu’r cais.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r awdurdod trwyddedu.
Ceisiadau a wneir o dan Ddeddf 2015
Ceisiadau sy’n ymwneud â hysbysiadau terfynol
75. 

(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gais a wneir o dan baragraff 5 o Atodlen 9 i Ddeddf 2015 (apêl yn erbyn cosb ariannol).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a) copi o’r hysbysiad o fwriad a gyflwynwyd i’r asiant gosod gan yr awdurdod pwysau a mesurau lleol o dan baragraff 1(1) o Atodlen 9 i Ddeddf 2015;
(b) copi o unrhyw sylwadau ysgrifenedig a wnaed gan yr asiant gosod ar ôl cael yr hysbysiad o fwriad a ddyroddwyd o dan baragraff 2 o Atodlen 9 i Ddeddf 2015;
(c) copi o’r hysbysiad terfynol a gyflwynwyd i’r asiant gosod gan yr awdurdod pwysau a mesurau lleol o dan baragraff 3 o Atodlen 9 i Ddeddf 2015; ac
(ch) unrhyw ddogfennau perthnasol eraill sy’n ategu’r cais.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw’r awdurdod pwysau a mesurau lleol perthnasol.”