
2015 Rhif 1803 (Cy. 258)
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Rheoliadau’r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol (Cymru) (Rhif 2) 2015
Gwnaed 30 Hydref 2015
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 3 Tachwedd 2015
Yn dod i rym 25 Tachwedd 2015
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 133(1) a (2) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol (Cymru) (Rhif 2) 2015.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 25 Tachwedd 2015.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “aelod o’r Bwrdd” (“Board member”) yw aelod o’r Bwrdd Cenedlaethol;
 ystyr “y Bwrdd Cenedlaethol” (“the National Board”) yw’r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol;
 ystyr “Bwrdd Diogelu” (“Safeguarding Board”) yw bwrdd diogelu a sefydlir o dan adran 134 o’r Ddeddf;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Cyfansoddiad
3 

(1) Mae’r Bwrdd Cenedlaethol i’w ffurfio o hyd at 6 aelod a benodir gan Weinidogion Cymru.
(2) Rhaid i Weinidogion Cymru benodi un o aelodau’r Bwrdd yn gadeirydd y Bwrdd Cenedlaethol.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu’r telerau y penodir aelodau’r Bwrdd odanynt.
(4) Caiff Gweinidogion Cymru ddarparu staff ac adnoddau eraill i gynorthwyo’r Bwrdd Cenedlaethol i gyflawni ei swyddogaethau.
Trafodion mewn cyfarfodydd
4 

(1) Rhaid i’r Bwrdd Cenedlaethol ethol un o’i aelodau yn is-gadeirydd.
(2) Mae’r cadeirydd neu’r is-gadeirydd i lywyddu yng nghyfarfodydd y Bwrdd Cenedlaethol.
(3) Mae’r Bwrdd Cenedlaethol i wneud penderfyniadau drwy bleidlais mwyafrif syml o aelodau’r Bwrdd sy’n bresennol; mae’r person sy’n llywyddu yn y cyfarfod i gael ail bleidlais neu bleidlais fwrw os bydd y bleidlais yn gyfartal.
(4) 3 aelod o’r Bwrdd, gan gynnwys y person sy’n llywyddu, yw’r cworwm ar gyfer cyfarfodydd y Bwrdd Cenedlaethol.
(5) Rhaid i’r Bwrdd Cenedlaethol gadw cofnodion o’i gyfarfodydd a chofrestr o fuddiannau aelodau’r Bwrdd.
Grwpiau atodol a sefydlir gan y Bwrdd Cenedlaethol
5 

(1) Caiff y Bwrdd Cenedlaethol sefydlu grwpiau atodol i ystyried—
(a) materion penodol,
(b) materion sy’n ymwneud â diogelu plant yn unig, neu
(c) materion sy’n ymwneud â diogelu oedolion yn unig,
ac adrodd yn ôl i’r Bwrdd Cenedlaethol.
(2) Caniateir i grŵp o’r fath gael ei ffurfio o’r canlynol—
(a) aelodau’r Bwrdd yn unig,
(b) personau nad ydynt yn aelodau ac un neu fwy o aelodau’r Bwrdd, neu
(c) dim ond personau nad ydynt yn aelodau.
Cyfarfodydd rhwng aelodau’r Bwrdd Cenedlaethol a chadeiryddion Byrddau Diogelu
6 
Rhaid i un neu fwy o aelodau’r Bwrdd wahodd cadeiryddion y Byrddau Diogelu, a gwneud trefniadau i gyfarfod â hwy o leiaf ddwywaith y flwyddyn.
Ymgynghori â phobl yr effeithir arnynt
7 
Rhaid i’r Bwrdd Cenedlaethol drefnu i gyfarfod, o leiaf unwaith y flwyddyn, â grŵp o bersonau sy’n cynrychioli’r rhai y gall trefniadau i ddiogelu plant ac oedolion yng Nghymru effeithio arnynt.
Adroddiad blynyddol
8 

(1) Rhaid i’r Bwrdd Cenedlaethol gyflwyno ei adroddiad blynyddol i Weinidogion Cymru heb fod yn hwyrach na 31 Hydref bob blwyddyn, mewn cysylltiad â’r flwyddyn sy’n dod i ben ar y 31 Mawrth blaenorol.
(2) Rhaid i’r adroddiad blynyddol gynnwys gwybodaeth am y canlynol—
(a) unrhyw gymorth a chyngor a roddwyd gan y Bwrdd Cenedlaethol i’r Byrddau Diogelu;
(b) unrhyw waith arall a wnaed gan y Bwrdd Cenedlaethol, neu gan grwpiau atodol a sefydlwyd gan y Bwrdd Cenedlaethol, a’r canlyniadau a sicrhawyd;
(c) digonolrwydd ac effeithiolrwydd y trefniadau a wnaed gan y Byrddau Diogelu i ddiogelu plant ac oedolion yng Nghymru, gan gynnwys—
(i) y gwersi a ddysgwyd oddi wrth adolygiadau ymarfer plant ac adolygiadau ymarfer oedolion a gynhaliwyd gan Fyrddau Diogelu ac oddi wrth adolygiadau ac ymchwiliadau eraill;
(ii) enghreifftiau o adegau pan gafodd dysgu, gwybodaeth ac adnoddau eu rhannu rhwng Byrddau Diogelu o fewn ardal Bwrdd Diogelu neu rhwng Byrddau Diogelu ledled Cymru;
(iii) enghreifftiau o fesurau effeithiol y mae Byrddau Diogelu wedi eu cymryd i roi i blant ac oedolion yr effeithiwyd arnynt gyfle i gymryd rhan mewn gwaith Bwrdd Diogelu;
(d) unrhyw argymhellion y mae’r Bwrdd Cenedlaethol yn dymuno eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.
(3) Rhaid i’r Bwrdd Cenedlaethol roi’r adroddiad blynyddol ar gael i’r cyhoedd heb fod yn hwyrach na 31 Rhagfyr yn y flwyddyn y cafodd ei gyflwyno.
(4) Yn y rheoliad hwn—
(a) ystyr “adolygiad ymarfer plant” (“child practice review”) yw adolygiad a gynhelir gan Fwrdd Diogelu yn unol â rheoliad 4 o Reoliadau Byrddau Diogelu (Swyddogaethau a Gweithdrefnau) (Cymru) 2015 sy’n ymwneud â phlentyn; a
(b) ystyr “adolygiad ymarfer oedolion” (“adult practice review”) yw adolygiad a gynhelir gan Fwrdd Diogelu yn unol â rheoliad 4 o Reoliadau Byrddau Diogelu (Swyddogaethau a Gweithdrefnau) (Cymru) 2015 sy’n ymwneud ag oedolyn.
Dirymu
9 
Mae Rheoliadau’r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol (Cymru) 2015 wedi eu dirymu.
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
30 Hydref 2015