
2015 Rhif 1795 (Cy. 255)
Tai, Cymru
Rheoliadau Tai (Hawl i Brynu) (Ffurflenni Rhagnodedig) (Cymru) (Diwygio) 2015
Gwnaed 12 Hydref 2015
Yn dod i rym 19 Hydref 2015
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 176(1) a (5) o Ddeddf Tai 1985 fel y’u hymestynnwyd gan adran 26(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy.
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tai (Hawl i Brynu) (Ffurflenni Rhagnodedig) (Cymru) (Diwygio) 2015 a deuant i rym ar 19 Hydref 2015.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 2015” (“the 2015 Regulations”) yw Rheoliadau Tai (Hawl i Brynu) (Ffurflenni Rhagnodedig) (Cymru) 2015.
Diwygio’r hysbysiad yn hawlio arfer yr hawl i brynu
2 

(1) Mae Rheoliadau 2015 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Rhan Ch o Atodlen 1 (pwy sy’n gymwys a gostyngiadau) yn lle “sef £16,000” rhodder —“sydd mewn grym o bryd i’w gilydd”.
Arbediad a darpariaeth drosiannol
3 
Nid oes dim yn y Rheoliadau hyn yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw hysbysiad a roddwyd cyn 19 Hydref 2015 os rhoddwyd yr hysbysiad ar ffurf a ragnodir gan Reoliadau 2015, neu ar ffurf y mae ei heffaith yn sylweddol debyg iddi.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, un o Weinidogion Cymru
12 Hydref 2015