
2015 Rhif 1794 (Cy. 254)
Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru
Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Pŵer i Drechu Hawddfreintiau a Cheisiadau gan Ymgymerwyr Statudol) (Cymru) 2015
Gwnaed 13 Hydref 2015
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 203 o Ddeddf Cynllunio 2008, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Yn unol ag adran 203(9) o’r Ddeddf honno gosodwyd drafft o’r Gorchymyn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.
Enwi, cychwyn a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Pŵer i Drechu Hawddfreintiau a Cheisiadau gan Ymgymerwyr Statudol) (Cymru) 2015.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod wedi’r diwrnod y gwneir y Gorchymyn.
(3) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “Deddf 1990” (“the 1990 Act”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.
Pŵer i drechu hawddfreintiau a hawliau eraill
2 
Ym mharagraff 6(1A) o Atodlen 28 i Ddeddf Llywodraeth Leol, Cynllunio a Thir 1980 ar ôl “in England”, mewnosoder “or Wales”.
3 
Yn adran 19(1A) o Ddeddf Trefi Newydd 1981 hepgorer “in England”.
4 
Ym mharagraff 5(1A) o Atodlen 10 i Ddeddf Tai 1988ar ôl “in England”, mewnosoder “in Wales”.
5 
Yn adran 237(1A) o Ddeddf 1990 hepgorer “in England”.
Ceisiadau am ganiatâd cynllunio gan ymgymerwyr statudol
6 
Yn adran 266 o Ddeddf 1990 ar ôl is-adran (1A) mewnosoder—“
(1B) Subsection (1) has effect in relation to an application or appeal relating to land in Wales only if the Welsh Ministers or the appropriate Minister have given a direction for it to have effect in relation to the application or appeal (and the direction has not been revoked).”
Darpariaeth drosiannol
7 
Nid yw’r diwygiad a wneir gan erthygl 6 yn gymwys ond mewn perthynas â cheisiadau ac apelau a wneir ar neu ar ôl y diwrnod y daw’r Gorchymyn hwn i rym.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru
13 Hydref 2015