
2015 Rhif 1793 (Cy. 253)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Cymhwyso Deddfiadau) (Cymru) (Diwygio) 2015
Gwnaed 12 Hydref 2015
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 15 Hydref 2015
Yn dod i rym 6 Tachwedd 2015
Drwy arfer eu pwerau o dan adran 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996 a pharagraff 3 o Atodlen 1 iddi, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Cymhwyso Deddfiadau) (Cymru) (Diwygio) 2015 a deuant i rym ar 6 Tachwedd 2015.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran unedau cyfeirio disgyblion yng Nghymru.
Diwygio
2 
Yn lle paragraff 16 a’i bennawd yn Rhan 2 o Atodlen 1 i Reoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Cymhwyso Deddfiadau) (Cymru) 2007 rhodder—“
Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Datblygu Ysgolion) (Cymru) 2014
16. 
Mae Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Datblygu Ysgolion) (Cymru) 2014 yn gymwys o ran unedau fel y maent yn gymwys o ran ysgolion a gynhelir.”
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
12 Hydref 2015