
2015 Rhif 1786 (Cy. 249) (C. 110)
Dŵr, Cymru
Gorchymyn Deddf Dŵr 2014 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2015
Gwnaed 7 Hydref 2015
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddwyd iddynt gan adrannau 91(3) a 94(3) o Ddeddf Dŵr 2014.
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Dŵr 2014 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2015.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Dŵr 2014.
Y diwrnod penodedig
2 
1 Tachwedd 2015 yw’r diwrnod penodedig i adran 41 (anghydfodau ynghylch darparu carthffosydd cyhoeddus: mangreoedd yng Nghymru) o’r Ddeddf ddod i rym.
Darpariaeth drosiannol
3 
Er gwaethaf erthygl 2, bydd adran 101A o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991 fel y mae mewn grym yn union cyn i’r Gorchymyn hwn ddod i rym yn parhau’n effeithiol o ran unrhyw anghydfod a gyfeiriwyd at yr asiantaeth briodol o dan y ddarpariaeth honno cyn i’r Gorchymyn hwn gael ei wneud.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru
7 Hydref 2015