
2015 Rhif 1785 (Cy. 248) (C. 109)
Llesiant, Cymru
Gorchymyn Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (Cychwyn) 2015
Gwnaed 30 Medi 2015
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 56(2) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (Cychwyn) 2015.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Y diwrnod penodedig
2 
16 Hydref 2015 yw’r diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ddod i rym—
(a) adran 1 (trosolwg);
(b) adran 6 (ystyr “corff cyhoeddus”);
(c) adran 10 (dangosyddion cenedlaethol ac adroddiad llesiant blynyddol);
(d) adran 14 (canllawiau);
(e) adran 17 (Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru);
(f) adran 22(2) (dyletswydd i ddilyn argymhellion: canllawiau);
(g) adran 22(3) (dyletswydd i ddilyn argymhellion: ystyried canllawiau);
(h) adran 26 (panel cynghori);
(i) adran 27 (aelodau penodedig);
(j) adran 28 (talu treuliau aelodau’r panel);
(k) adran 40(7) (cynlluniau llesiant lleol: dyletswydd Gweinidogion Cymru i ddyroddi canllawiau);
(l) adran 40(8) (cynlluniau llesiant lleol: dyletswydd cynghorau cymuned i ystyried canllawiau);
(m) adran 51 (canllawiau);
(n) adran 52 (ystyr “corff cyhoeddus”: darpariaeth bellach);
(o) Atodlen 2 (Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru).
Carl Sargeant
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru
30 Medi 2015