
2015 Rhif 1773 (Cy. 245)
Anifeiliaid, CymruIechyd Anifeiliaid
Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) (Diwygio) 2015
Gwnaed 6 Hydref 2015
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 12 Hydref 2015
Yn dod i rym 2 Tachwedd 2015
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 1 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981.
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) (Diwygio) 2015.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 2 Tachwedd 2015.
Diwygiadau i Orchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2010
2 

(1) Mae Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2010 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 2 (dehongli) yn y man priodol yn ôl trefn yr wyddor mewnosoder—“
 ystyr “statws rhydd rhag twbercwlosis” (“tubercolosis-free status”) yw buches sy’n bodloni’r amodau a nodir yn Atodiad A.1, paragraffau 1 a 2 o Gyfarwyddeb y Cyngor 64/432/EEC ar broblemau iechyd anifeiliaid sy’n effeithio ar fasnach ryng-Gymunedol mewn anifeiliaid buchol ac anifeiliaid o deulu’r mochyn.”
(3) Yn erthygl 12 (profi ar gyfer twbercwlosis) ym mharagraff (9) hepgorer y diffiniad o “colli ei statws rhydd rhag twbercwlosis”.
(4) Yn erthygl 14 (cofnodion o brofion ar gyfer twbercwlosis) ar ôl paragraff (3) mewnosoder—“
(4) Pan fo buches yn colli neu’n adennill ei statws rhydd rhag twbercwlosis caiff Gweinidogion Cymru gyhoeddi gwybodaeth am y fuches honno ar unrhyw ffurf y mae Gweinidogion Cymru yn barnu ei bod yn addas at ddibenion helpu personau eraill i ddiogelu rhag lledaeniad pellach twbercwlosis.”
Rebecca Evans
Y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd o dan awdurdod y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru
6 Hydref 2015