
2015 Rhif 1760 (Cy. 244)
Meinweoedd Dynol, Cymru
Rheoliadau Trawsblannu Dynol (Cynrychiolwyr Penodedig) (Cymru) 2015
Gwnaed 7 Hydref 2015
Yn dod i rym 1 Rhagfyr 2015

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer eu pwerau yn adrannau 8(10)(b) ac 20(1) a (2) o Ddeddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013 ac ar ôl cynnal unrhyw ymgynghoriad cyhoeddus sy’n briodol yn eu barn hwy yn unol ag adran 20(3) o’r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol ag adran 20(4) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trawsblannu Dynol (Cynrychiolwyr Penodedig) (Cymru) 2015 a deuant i rym am 00:01 ar 1 Rhagfyr 2015.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Personau na chânt weithredu o dan benodiad
2 
At ddiben darparu cydsyniad datganedig o dan adran 3 o’r Ddeddf, ni chaiff person weithredu o dan benodiad os nad yw’r galluedd gan y person hwnnw i ddeall y cysyniad o gydsynio i weithgaredd trawsblannu.
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
7 Hydref 2015