
2015 Rhif 1736 (Cy. 237) (C. 106)
Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru
Gorchymyn Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 (Cychwyn Rhif 1) 2015
Gwnaed 29 Medi 2015
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 58(4)(b) o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015.
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 (Cychwyn Rhif 1) 2015.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Cynllunio (Cymru) 2015.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 5 Hydref 2015
2 
Y diwrnod penodedig ar gyfer dwyn y darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym, i’r graddau nad yw’r darpariaethau hynny eisoes mewn grym, yw 5 Hydref 2015—
(a) adran 4 (dynodi ardaloedd cynllunio strategol a sefydlu paneli cynllunio strategol); a
(b) Rhan 1 o Atodlen 1 (cyfansoddiad a threfniadau ariannol paneli).
Carl Sargeant
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru
29 Medi 2015