
2015 Rhif 1733 (Cy. 236)
Cyflogaeth A Hyfforddiant, Cymru
Gorchymyn Prentisiaethau (Dynodi Awdurdod Ardystio Cymru) (Diwygio) 2015
Gwnaed 29 Medi 2015
Yn dod i rym 16 Hydref 2015
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 10(1)(b) a (3) o Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Prentisiaethau (Dynodi Awdurdod Ardystio Cymru) (Diwygio) 2015 a daw i rym ar 16 Hydref 2015.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Gorchymyn Prentisiaethau (Dynodi Awdurdod Ardystio Cymru) 2013
2 

(1) Mae Gorchymyn Prentisiaethau (Dynodi Awdurdod Ardystio Cymru) 2013 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 2, yn lle’r geiriau “mae Cynghrair y Cynghorau Sgiliau Sector” rhodder “mae’r Federation for Industry Sector Skills & Standards (Rhif Cwmni: SC175918)”.
Julie James
Y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, o dan awdurdod y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
29 Medi 2015