
2015 Rhif 1710 (Cy. 225) (C. 103)
Tai, Cymru
Landlord A Thenant, Cymru
Rheoliadau Deddf Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth 2015 (Cychwyn) (Cymru) 2015
Gwnaed 21 Medi 2015
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 164(5) o Ddeddf Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth 2015, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth 2015 (Cychwyn) (Cymru) 2015.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth 2015.
Y diwrnod penodedig
2 
1 Hydref 2015 yw’r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn y darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym—
(a) adran 35 (eithrio busnesau cartref rhag Rhan 2 o Ddeddf Landlord a Thenant 1954); a
(b) adran 36 (adran 35: darpariaeth atodol a chanlyniadol).
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, un o Weinidogion Cymru
21 Medi 2015