
2015 Rhif 1663 (Cy. 215)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Rheoliadau Prynu Tybaco, Cynhyrchion Nicotin etc. drwy Ddirprwy (Hysbysiad Cosb Benodedig) (Cymru) 2015
Gwnaed 4 Medi 2015
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 10 Medi 2015
Yn dod i rym 1 Hydref 2015
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddwyd iddynt gan baragraff 4 o Atodlen 1 i Ddeddf Iechyd 2006, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Prynu Tybaco, Cynhyrchion Nicotin etc. drwy Ddirprwy (Hysbysiad Cosb Benodedig) (Cymru) 2015 a deuant i rym ar 1 Hydref 2015.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Ffurflen hysbysiad cosb benodedig
2 

(1) Mae’r ffurflen hysbysiad cosb yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn wedi ei phennu mewn perthynas â’r drosedd o brynu neu geisio prynu tybaco, papurau sigaréts neu gynnyrch nicotin perthnasol ar ran unigolyn o dan 18 oed o dan adran 91 o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014.
(2) Caiff awdurdod pwysau a mesurau lleol ddefnyddio ffurflen hysbysiad cosb o faint neu ddyluniad sy’n wahanol i’r ffurflen yn yr Atodlen, ar yr amod nad yw cynnwys y ffurflen hysbysiad cosb yn cael ei newid o’r hyn a bennir yn yr Atodlen ac eithrio fel y’i caniateir gan baragraff (3).
(3) Caiff awdurdod pwysau a mesurau lleol gynnwys mewn ffurflen hysbysiad cosb—
(a) gwybodaeth neu enghreifftiau i gynorthwyo person y’i rhoddir iddo, er enghraifft o ran sut y gellir gwneud taliadau;
(b) gwybodaeth neu enghreifftiau i’w gynorthwyo wrth gyflawni ei swyddogaethau gorfodi o dan adran 91 o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014, er enghraifft i’w gynorthwyo yn ei weithdrefnau gweinyddol neu i brosesu data;
(c) arfbeisiau neu logos.
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
4 Medi 2015
ATODLEN
Rheoliad 2(1)
