
2015 Rhif 1605 (Cy. 203) (C. 93)
Addysg, Cymru
Gorchymyn Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2015
Gwnaed 10 Awst 2015
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 97(2) a 100(3)(b) o Ddeddf Hawliau Defnyddwyr 2015, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Enwi, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2015.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru yn unig.
(3) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Medi 2015
2 
Daw adran 89 o’r Ddeddf i rym ar 1 Medi 2015.
Trefniadau trosiannol
3 

(1) Ni all gweithredwr dynodedig ond adolygu cwyn gymhwysol am weithred neu anwaith sefydliad cymhwysol sy’n dod o fewn adran 11(e) neu (f) o Ddeddf Addysg Uwch 2004 pan fo’r weithred neu’r anwaith y cwynir amdani neu amdano—
(a) yn digwydd ar 1 Medi 2015 neu ar ôl hynny; neu
(b) yn digwydd cyn y dyddiad hwnnw ond yn parhau ar y dyddiad hwnnw neu ar ei ôl.
(2) Yn yr erthygl hon, mae i’r termau “gweithredwr dynodedig”, “cwyn gymhwysol” a “sefydliad cymhwysol” yr un ystyr ag a roddir i “designated operator”, “qualifying complaint” a “qualifying institution” yn eu tro yn Rhan 2 o Ddeddf Addysg Uwch 2004.
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
10 Awst 2015