
2015 Rhif 1601 (Cy. 200)
Addysg, Cymru
Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio) (Cymru) (Diwygio) 2015
Gwnaed 5 Awst 2015
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 11 Awst 2015
Yn dod i rym 1 Medi 2015
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 108(3)(a) a (b) a (5) a 210 o Ddeddf Addysg 2002, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio) (Cymru) (Diwygio) 2015 a daw i rym ar 1 Medi 2015.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio
2 

(1) Mae Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio) (Cymru) 2008 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 2(1)—
(a) yn y diffiniad o “y ddogfen Saesneg”, yn lle “yn Ionawr 2008 sy’n dwyn y teitl “Saesneg yng Nghwricwlwm Cenedlaethol Cymru”” rhodder “ym mis Awst 2015 sy’n dwyn y teitl “Curriculum for Wales: Programme of Study for English – Key Stages 2-4””;
(b) yn y diffiniad o “y ddogfen fathemateg”, yn lle “yn Ionawr 2008 sy’n dwyn y teitl “Mathemateg yng Nghwricwlwm Cenedlaethol Cymru”” rhodder “ym mis Awst 2015 sy’n dwyn y teitl “Cwricwlwm Cymru: Rhaglen Astudio ar gyfer Mathemateg – Cyfnodau Allweddol 2-4””;
(c) yn y diffiniad o “y ddogfen Gymraeg”, yn lle “yn Ionawr 2008 sy’n dwyn y teitl “Cymraeg yng Nghwricwlwm Cenedlaethol Cymru”” rhodder “ym mis Awst 2015 sy’n dwyn y teitl “Cwricwlwm Cymru: Rhaglen Astudio ar gyfer Cymraeg – Cyfnodau Allweddol 2-4””; a
(d) ar ôl y diffiniad o “y ddogfen celf a dylunio” mewnosoder—“
 “ystyr “y ddogfen Cymraeg ail iaith” (“the Welsh second language document”) yw’r ddogfen a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru ym mis Awst 2015 sy’n dwyn y teitl “Cymraeg ail iaith yng Nghwricwlwm Cenedlaethol Cymru – Cyfnodau Allweddol 2-4”;”.
(3) Yn lle erthygl 15 rhodder—“
Cymraeg
15. 

(1) Mae’r darpariaethau ynghylch targedau cyrhaeddiad a rhaglenni astudio a osodir yn y ddogfen Gymraeg a’r ddogfen Cymraeg ail iaith yn cael effaith at ddibenion pennu’r targedau cyrhaeddiad a rhaglenni astudio o ran Cymraeg.
(2) Nid yw’r enghreifftiau a argreffir mewn llythrennau italig yn y ddogfen Gymraeg a’r ddogfen Cymraeg ail iaith (sy’n dangos y rhaglenni astudio a ddisgrifir ynddi) yn ffurfio rhan o’r ddarpariaeth a wneir gan y Gorchymyn hwn.”
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
5 Awst 2015