
2015 Rhif 1596 (Cy. 195)
Addysg, Cymru
Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Deilliannau Dymunol, Rhaglenni Addysg a Threfniadau Asesu Sylfaenol a Diwedd Cyfnod ar gyfer y Cyfnod Sylfaen) (Cymru) 2015
Gwnaed 5 Awst 2015
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 10 Awst 2015
Yn dod i rym 1 Medi 2015
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 108(2), (3) a (5) a 210 o Ddeddf Addysg 2002, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
RHAN 1 Cyflwyniad
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Deilliannau Dymunol, Rhaglenni Addysg a Threfniadau Asesu Sylfaenol a Diwedd Cyfnod ar gyfer y Cyfnod Sylfaen) (Cymru) 2015 ac mae’n dod i rym ar 1 Medi 2015.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Dirymu
2 
Mae Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Diwedd y Cyfnod Sylfaen a Dirymu Trefniadau Asesu’r Cyfnod Allweddol Cyntaf) (Cymru) 2011 wedi ei ddirymu.
Dehongli
3 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “addysgwr” (“practitioner”) yw unrhyw berson sy’n addysgu’r cyfnod sylfaen mewn lleoliad cyfnod sylfaen;ystyr “dogfen fframwaith” (“framework document”) yw’r ddogfen a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ym mis Awst 2015 o’r enw “Cwricwlwm Cymru: Fframwaith y Cyfnod Sylfaen”;ystyr “dosbarth derbyn” (“reception class”) yw dosbarth lle y darperir addysg sy’n addas at ddibenion disgyblion 5 oed ac unrhyw ddisgyblion dan neu dros yr oedran hwnnw y mae’n hwylus i’w haddysgu gyda disgyblion o’r oedran hwnnw;ystyr “lefel cyrhaeddiad” (“level of attainment”) yw’r lefelau cyrhaeddiad a nodir yn y llawlyfr proffil, sef—
(a) gweithio tuag at efydd;
(b) efydd;
(c) arian;
(d) aur;
(e) deilliant 1;
(f) deilliant 2;
(g) deilliant 3;
(h) deilliant 4;
(i) deilliant 5; a
(j) deilliant 6;ystyr “llawlyfr proffil” (“profile handbook”) yw’r ddogfen o’r enw “Llawlyfr Proffil y Cyfnod Sylfaen” a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ym mis Awst 2015;ystyr “lleoliad cyfnod sylfaen” (“foundation phase setting”) yw ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir;ystyr “meysydd dysgu asesiad diwedd cyfnod” (“end of phase assessment areas of learning”) yw—
(a) sgiliau iaith, llythrennedd a chyfathrebu;
(b) datblygiad mathemategol; ac
(c) datblygiad personol a chymdeithasol a lles ac amrywiaeth ddiwylliannol;ystyr “meysydd dysgu asesiad sylfaenol” (“baseline assessment areas of learning”) yw—
(a) sgiliau iaith, llythrennedd a chyfathrebu;
(b) datblygiad mathemategol;
(c) datblygiad personol a chymdeithasol a lles ac amrywiaeth ddiwylliannol; a
(d) datblygiad corfforol;ystyr “sgiliau cryno a llawn” (“compact and full skills”) yw’r sgiliau hynny a nodir yn y tablau ar y tudalennau hynny o’r llawlyfr proffil o dan y pennawd “cryno a llawn” mewn cysylltiad â’r meysydd dysgu;ystyr “sgiliau llawn yn unig” (“full only skills”) yw’r sgiliau hynny a nodir yn y tablau ar y tudalennau hynny o’r llawlyfr proffil o dan y pennawd “llawn yn unig” mewn cysylltiad â’r meysydd dysgu.
RHAN 2 Y Cyfnod Sylfaen: Y Cwricwlwm Cenedlaethol
Diwygiad i Orchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Cyfnod Sylfaen) (Cymru) 2014
4 
Yn erthygl 1(2) o Orchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Cyfnod Sylfaen) (Cymru) 2014) rhodder “Awst 2015 o’r enw “Cwricwlwm Cymru: Fframwaith y Cyfnod Sylfaen”” yn lle “Ionawr 2008 o’r enw “Cyfnod Sylfaen: Fframwaith ar gyfer Dysgu Plant 3 i 7 oed yng Nghymru””.
RHAN 3 Asesiad sylfaenol yn y cyfnod sylfaen
Asesiad sylfaenol
5 

(1) Rhaid i bennaeth lleoliad cyfnod sylfaen wneud trefniadau i addysgwr gynnal asesiad mewn perthynas â phob disgybl mewn dosbarth derbyn yn unol â’r llawlyfr proffil.
(2) Diben yr asesiad yw pennu lefel cyrhaeddiad y disgybl ym mhob un o’r meysydd dysgu asesiad sylfaenol mewn perthynas â’r sgiliau cryno a llawn.
(3) Mae’r asesiad i’w seilio ar arsylwadau’r addysgwr o’r disgybl sy’n cael ei asesu.
Cofnod cyrhaeddiad
6 

(1) Rhaid i’r addysgwr a gynhaliodd yr asesiad wneud cofnod o lefel cyrhaeddiad pob disgybl.
(2) Rhaid i’r cofnod cyrhaeddiad gael ei wneud yn unol â’r llawlyfr proffil.
(3) Rhaid i’r cofnod cyrhaeddiad gynnwys canlyniadau’r asesiad a gynhaliwyd yn unol ag erthygl 5.
Amseru’r asesiad a’r cofnod cyrhaeddiad
7 
Rhaid i’r asesiad gael ei gwblhau a’r cofnod cyrhaeddiad gael ei wneud—
(a) o fewn 6 wythnos i’r tro cyntaf y bydd y plentyn yn mynychu dosbarth derbyn fel disgybl; neu
(b) cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, os na ellir cwblhau’r asesiad a’r cofnod cyrhaeddiad o fewn y cyfnod a ddiffinnir ym mharagraff (a) mewn amgylchiadau eithriadol ac am resymau sydd y tu hwnt i reolaeth y pennaeth.
RHAN 4 Asesu diwedd cyfnod yn y cyfnod sylfaen
Asesu diwedd cyfnod
8 

(1) Rhaid i bennaeth lleoliad cyfnod sylfaen wneud trefniadau i addysgwr gynnal asesiad mewn perthynas â phob disgybl ym mlwyddyn olaf y cyfnod sylfaen.
(2) Diben yr asesiad yw pennu lefel cyrhaeddiad y disgybl ym mhob un o’r meysydd dysgu asesiad diwedd cyfnod.
(3) Mae’r asesiad i’w seilio ar arsylwadau’r addysgwr o’r disgybl sy’n cael ei asesu.
Cofnod cyrhaeddiad
9 

(1) Rhaid i’r addysgwr a gynhaliodd yr asesiad wneud cofnod o lefel cyrhaeddiad pob disgybl.
(2) Rhaid i’r cofnod cyrhaeddiad gynnwys canlyniadau’r asesiad a gynhaliwyd yn unol ag erthygl 8.
Amseru’r asesiad a’r cofnod cyrhaeddiad
10 
Rhaid i’r asesiad gael ei gwblhau a’r cofnod cyrhaeddiad gael ei wneud—
(a) heb fod hwyrach nag 20 diwrnod gwaith cyn diwedd tymor yr haf; neu
(b) cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, os na ellir cwblhau’r asesiad a’r cofnod cyrhaeddiad o fewn y cyfnod a ddiffinnir ym mharagraff (a) mewn amgylchiadau eithriadol ac am resymau sydd y tu hwnt i reolaeth y pennaeth.
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
5 Awst 2015