
2015 Rhif 1591 (Cy. 191) (C. 92)
Addysg, Cymru
Gorchymyn Deddf Cymwysterau Cymru 2015 (Cychwyn Rhif 1) 2015
Gwnaed 16:55 ar 5 Awst 2015
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddwyd gan adran 60(2) a (3) o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a dehongli
1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cymwysterau Cymru 2015 (Cychwyn Rhif 1) 2015.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 6 Awst 2015
2 
Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015 i rym ar 6 Awst 2015—
(a) adran 2(1) (sefydlu Cymwysterau Cymru);
(b) adran 2(2) i’r graddau y mae’n ymwneud â Rhan 1 a pharagraff 37 o Atodlen 1;
(c) Rhan 1 o Atodlen 1 (sefydlu Cymwysterau Cymru); a
(d) paragraff 37 (yn Rhan 2) o Atodlen 1 (diwygiad canlyniadol i Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000).
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
5 Awst 2015