
2015 Rhif 1521 (Cy. 178)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Newid Categori) (Cymru) 2015
Gwnaed 14 Gorffennaf 2015
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 16 Gorffennaf 2015
Yn dod i rym 1 Medi 2015
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 97 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a pharagraff 38 o Atodlen 4 iddi, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dirymu
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Newid Categori) (Cymru) 2015 a deuant i rym ar 1 Medi 2015.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Mae’r Rheoliadau a ganlyn wedi eu dirymu—
(a) Rheoliadau Newid Categori Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2001; a
(b) Rheoliadau Newid Categori Ysgolion a Gynhelir (Cymru) (Diwygio) 2005.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “y corff llywodraethu” (“the governing body”) yw corff llywodraethu’r ysgol y mae newid categori yn cael ei gynnig neu, yn ôl y digwydd, yn digwydd mewn cysylltiad â hi;
 ystyr “y cyfnod gweithredu” (“the implementation period”) yw’r cyfnod sy’n dechrau ar y dyddiad y cymeradwyir y cynigion neu y penderfynir arnynt o dan adrannau 50, 51 neu 53 o’ Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 ac sy’n dod i ben ar y dyddiad gweithredu;
 ystyr “y dyddiad gweithredu” (“the implementation date”) yw’r dyddiad a bennir yn y cynigion fel y dyddiad pryd y bwriedir i’r newid categori ddigwydd;
 ystyr “Rheoliadau 2005” (“the 2005 Regulations”) yw Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005;
 ystyr “Rheoliadau 2014” (“the 2014 Regulations”) yw Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2014.
Yr offeryn llywodraethu
3 

(1) Rhaid i’r corff llywodraethu a’r awdurdod lleol sicrhau erbyn diwedd y cyfnod gweithredu fod offeryn llywodraethu newydd yn cael ei wneud ar gyfer yr ysgol yn unol â’ Rheoliadau 2005 neu Reoliadau 2014 (yn ôl y digwydd).
(2) Mae’r offeryn llywodraethu newydd yn cymryd effaith o ddyddiad ei wneud at ddiben ailgyfansoddi’r corff llywodraethu ond ni fydd yn effeithio ar gyfansoddiad y corff llywodraethu sy’n rhedeg yr ysgol tra’n aros am y dyddiad gweithredu.
(3) At bob diben arall, mae’r offeryn llywodraethu newydd yn cymryd effaith o’r dyddiad gweithredu.
Ailgyfansoddi’r corff llywodraethu
4 

(1) Rhaid i’r corff llywodraethu a’r awdurdod lleol sicrhau, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl dechrau’r cyfnod gweithredu (a beth bynnag o fewn cyfnod o 3 mis gan ddechrau ar y dyddiad gweithredu), fod y corff llywodraethu yn cael ei ailgyfansoddi yn unol â’r offeryn llywodraethu newydd a’ Rheoliadau 2005 neu Reoliadau 2014 (yn ôl y digwydd).
(2) Rhaid i’r corff llywodraethu arfer ei swyddogaethau o dan y Ddeddf a’r Rheoliadau hyn mewn ffordd a fydd yn ’galluogi’r awdurdod lleol i gyflawni ei ddyletswyddau yntau o dan baragraff (1).
Llywodraethwyr presennol yn parhau yn eu swyddi
5 

(1) Mae paragraff (2) yn gymwys i unrhyw aelod o gorff llywodraethu presennol y mae offeryn llywodraethu newydd wedi ei wneud mewn cysylltiad â’r corff o dan y Rheoliadau hyn.
(2) Yn ddarostyngedig i reoliad 6, bydd llywodraethwr y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo yn parhau yn ei swydd o’r dyddiad gweithredu (neu ddyddiad gwneud yr offeryn llywodraethu newydd os yw’n ddiweddarach) fel llywodraethwr yn y categori cyfatebol sy’n ofynnol o dan yr offeryn llywodraethu newydd (pan fo categori cyfatebol yn bodoli).
(3) Bydd aelod o gorff llywodraethu presennol sy’n parhau yn llywodraethwr o dan baragraff (2) yn dal ei swydd am weddill y tymor y cafodd y llywodraethwr hwnnw ei benodi neu ei ethol ar ei gyfer yn wreiddiol.
(4) Ni chaiff trafodion y corff llywodraethu eu hannilysu am fod gan yr ysgol fwy o lywodraethwyr mewn categori penodol na’r hyn y darperir ar ei gyfer gan yr offeryn llywodraethu newydd, tra’n aros i’r llywodraethwyr gormodol gael eu diswyddo o dan reoliad 6.
Llywodraethwyr gormodol
6 

(1) Pan fo’r canlynol yn digwydd, sef—
(a) bod gan ysgol fwy o lywodraethwyr ar neu ar ôl y dyddiad gweithredu mewn categori penodol na’r hyn sy’n ofynnol fel llywodraethwyr yn y categori hwnnw o dan yr offeryn llywodraethu newydd; a
(b) bod y gormodedd heb ei ddileu drwy ymddiswyddiadau,
bydd y nifer yn y categori hwnnw sy’n ofynnol i ddileu’r gormodedd yn peidio â dal eu swyddi yn unol â pharagraffau (2) a (3).
(2) Ar sail hyd eu gwasanaeth y penderfynir pa lywodraethwyr sydd i beidio â dal eu swyddi, a’r llywodraethwr sydd wedi gwasanaethu am y cyfnod di-dor byrraf ar hyn o bryd (p’un ai fel llywodraethwr un categori neu fwy nag un) fydd y cyntaf i beidio â dal ei swydd.
(3) Pan fo angen, at ddiben paragraff (2), dewis un neu ragor o lywodraethwyr o blith grŵp sy’n gyfartal o ran hyd gwasanaeth, rhaid gwneud hynny drwy fwrw coelbren.
(4) At ddibenion y rheoliad hwn, mae noddwr-lywodraethwyr a enwebir gan gategori penodol o berson i’w trin fel petaent yn gategori ar wahân o lywodraethwyr.
(5) Ni fydd unrhyw weithdrefn a nodir yn yr offeryn llywodraethu newydd ar gyfer diswyddo llywodraethwyr sefydledig gormodol yn gymwys ar gyfer ailgyfansoddi’r corff llywodraethu o dan y Rheoliadau hyn.
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
14 Gorffennaf 2015