
2015 Rhif 1505 (Cy. 173)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) (Diwygio) 2015
Gwnaed 8 Gorffennaf 2015
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 13 Gorffennaf 2015
Yn dod i rym 3 Awst 2015
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 22 a 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) (Diwygio) 2015.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 3 Awst 2015 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio
2 
Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2015 wedi eu diwygio yn unol â’r rheoliadau a ganlyn.
3 
Yn rheoliad 3(15) (dirymu, arbedion a darpariaethau trosiannol) yn lle “2014” rhodder “2015” ym mhob lle y mae’n ymddangos yn y paragraff hwnnw.
4 
Yn rheoliad 10(2)(b) (terfynau amser) yn lle’r geiriau “reoliad 21(4)” rhodder “reoliad 21(7)”.
5 
Yn Atodlen 5 (asesiad ariannol)—
(a) ym mharagraff 2(1)(h) yn lle’r geiriau “paragraff 5(10)” rhodder “paragraff 5(9)”;
(b) ym mharagraff 4(1)(b) yn lle’r gair “bensiwn” rhodder “bremiwm”;
(c) ym mharagraff 6(1) yn lle’r geiriau mewn cromfachau rhodder “(ac eithrio is-baragraffau (8), (9) a (10) o baragraff 5)”.
6 
Ym mharagraff 4(3) o Atodlen 6 (asesiad ariannol – grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion) ar ôl y geiriau mewn dyfynodau ond cyn y cromfach gau mewnosoder y geiriau “yn y paragraff hwn”.
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
8 Gorffennaf 2015