
2015 Rhif 1500 (Cy. 172)
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Mentrau Cymdeithasol, Cydweithredol a Thrydydd Sector) (Cymru) 2015
Gwnaed 8 Gorffennaf 2015
Yn dod i rym 6 Ebrill 2016

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 16(3) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Yn unol ag adran 196(6) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a chymeradwywyd ef ganddo drwy benderfyniad.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Mentrau Cymdeithasol, Cydweithredol a Thrydydd Sector) (Cymru) 2015.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Ebrill 2016 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw awdurdod lleol sy’n arfer swyddogaethau o dan adran 16 o’r Ddeddf;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Gweithgareddau sydd o fudd i’r gymdeithas
3 
At ddibenion y diffiniad o “menter gymdeithasol” yn adran 16(2) o’r Ddeddf, nid yw gweithgaredd i’w drin fel gweithgaredd y gallai person farnu’n rhesymol ei fod yn weithgaredd a gyflawnir er budd y gymdeithas ond—
(a) os yw’n gynhwysol (fel y’i diffinnir yn rheoliad 4);
(b) os yw’n cynnwys pobl (fel y’i diffinnir yn rheoliad 5); ac
(c) os yw’n hyrwyddo llesiant (fel y’i diffinnir yn rheoliad 6).
Cynhwysol
4 
Mae gweithgaredd yn gynhwysol os yw’r sefydliad sy’n cyflawni’r gweithgaredd wedi rhoi sylw, mewn perthynas â’r gweithgaredd hwnnw, i’r ffactorau y mae’n rhaid i awdurdod cyhoeddus roi sylw iddynt wrth gydymffurfio â dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus a nodir yn adran 149 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Cynnwys pobl
5 
Mae gweithgaredd yn cynnwys pobl os yw’r sefydliad sy’n darparu’r gweithgaredd yn hyrwyddo ymglymiad personau y mae gofal a chymorth neu wasanaethau ataliol i’w darparu ar eu cyfer yn y broses o ddylunio a gweithredu’r ddarpariaeth honno.
Hyrwyddo llesiant
6 
Mae gweithgaredd yn hyrwyddo llesiant os oedd y sefydliad sy’n darparu’r gweithgaredd, wrth ddylunio a gweithredu’r gweithgaredd, wedi rhoi sylw i’r nod o geisio hyrwyddo llesiant pobl y mae arnynt angen gofal a chymorth, a gofalwyr y mae arnynt angen cymorth.
Mentrau cymdeithasol
7 

(1) At ddibenion adran 16 o’r Ddeddf, mae’r mathau canlynol o sefydliad yn enghreifftiau o sefydliadau sydd i’w trin fel mentrau cymdeithasol—
(a) cwmni buddiant cymunedol fel y cyfeirir ato yn adran 26 o Ddeddf Cwmnïau (Archwilio, Ymchwiliadau a Menter Gymunedol) 2004;
(b) cymdeithas budd cymunedol sy’n bodloni’r gofynion ar gyfer cofrestru yn adran 2 o Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014;
(c) menter gymunedol;
(d) undeb credyd sydd wedi ei gofrestru a’i reoleiddio o dan Ddeddf Undebau Credyd 1979;
(e) cymdeithas dai (fel y’i diffinnir yn adran 1 o Ddeddf Cymdeithasau Tai 1985).
(2) Yn rheoliad 7(1)(c) uchod ystyr “menter gymunedol” (“community enterprise”) yw corff—
(a) y mae cyfrannu at ddatblygiad economaidd a chymdeithasol ardal benodol o Gymru yn brif ddiben ganddo; a
(b) nad yw, yn ôl ei gyfansoddiad ysgrifenedig, yn derbyn i’w aelodaeth neb ond—
(i) personau sy’n preswylio, neu sy’n cael eu cyflogi, yn yr ardal honno (neu sy’n preswylio yno ac yn cael eu cyflogi yno); neu
(ii) personau a enwebir gan y personau a grybwyllwyd yn is-baragraff (i) uchod.
Mentrau cydweithredol
8 

(1) At ddibenion adran 16(1) o’r Ddeddf—
(a) caniateir i sefydliad gael ei drin fel sefydliad cydweithredol p’un a yw’n bodloni’r holl ofynion ar gyfer cofrestru o dan Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014 ai peidio;
(b) caniateir i drefniadau gael eu trin fel trefniadau cydweithredol p’un a yw’r sefydliad sy’n gwneud y trefniadau yn bodloni’r holl ofynion ar gyfer cofrestru o dan Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014 ai peidio;
os yw’r sefydliad, neu’r sefydliad sy’n gwneud y trefniadau, yn cydymffurfio i raddau digonol â’r egwyddorion ar gyfer mentrau cydweithredol ym mharagraff (2).
(2) Mae’r egwyddorion ar gyfer mentrau cydweithredol yn ei gwneud yn ofynnol bod y sefydliad yn un—
(a) ymreolaethol,
(b) a chanddo aelodaeth wirfoddol,
(c) a chanddo’r diben o fodloni anghenion a dyheadau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol cyffredin,
(d) a berchenogir ar y cyd, ac
(e) a reolir yn ddemocrataidd.
Adran o’r gymdeithas
9 
At ddibenion adran 16 o’r Ddeddf caniateir i adran o’r gymdeithas gael ei ffurfio o’r canlynol —
(a) y personau hynny y mae arnynt neu y gall fod arnynt angen gofal a chymorth;
(b) gofalwyr y mae arnynt neu y gall fod arnynt angen cymorth; neu
(c) plant, pobl sy’n gadael gofal a phobl ifanc y mae gan awdurdod lleol swyddogaethau sy’n arferadwy mewn perthynas â hwy o dan Ran 6 o’r Ddeddf.
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
8 Gorffennaf 2015