
2015 Rhif 1499 (Cy. 171)
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Rheoliadau Gofal a Chymorth (Preswylfa Arferol) (Llety Penodedig) (Cymru) 2015
Gwnaed 7 Gorffennaf 2015
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 10 Gorffennaf 2015
Yn dod i rym 6 Ebrill 2016
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 194(1) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal a Chymorth (Preswylfa Arferol) (Llety Penodedig) (Cymru) 2015.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Ebrill 2016 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;
 ystyr “llety cartref gofal” (“care home accommodation”) yw llety mewn cartref gofal o fewn yr ystyr a roddir i “care home” gan adran 3 o Ddeddf Safonau Gofal 2000.
Mathau penodedig o lety
2 

(1) At ddibenion adran 194(1) o’r Ddeddf (preswylfa arferol), mae llety cartref gofal yn llety o fath penodedig.
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
7 Gorffennaf 2015