
2015 Rhif 1498 (Cy. 170)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Addysg Uwch (Cynlluniau Ffioedd a Mynediad) (Cymru) 2015
Gwnaed 7 Gorffennaf 2015
Yn dod i rym 31 Gorffennaf 2015

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 2(4), 6(1), 7(3), 8(1) a 9(1) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol ag adran 55(3) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg Uwch (Cynlluniau Ffioedd a Mynediad) (Cymru) 2015.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Gorffennaf 2015 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “cwrs cymhwysol” (“qualifying course”) yw cwrs a ddarperir yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru ac sydd wedi ei ragnodi at ddibenion adran 5(2)(b) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015;
 ystyr “person cymhwysol” (“qualifying person”) yw person sy’n dod o fewn adran 5(5) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015.
Ceisiadau am gymeradwyaeth i gynllun ffioedd a mynediad
3 
Rhaid i gais gan sefydliad am gymeradwyaeth i gynllun ffioedd a mynediad gynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud â’r canlynol—
(a) hyfywedd ariannol y sefydliad;
(b) y trefniadau ar gyfer trefnu a rheoli materion ariannol y sefydliad;
(c) ansawdd yr addysg a ddarperir gan, neu ar ran, y sefydliad.
Darpariaethau sydd i’w cynnwys mewn cynlluniau ffioedd a mynediad
4 
Mae rheoliadau 5 a 6 yn rhagnodi at ddibenion adran 6(1) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015 y darpariaethau sy’n ymwneud â hybu cyfle cyfartal a hybu addysg uwch y mae rhaid i gynllun ffioedd a mynediad eu cynnwys.
5 
Rhaid i gynllun ffioedd a mynediad—
(a) nodi amcanion y sefydliad, a benderfynwyd gan y corff llywodraethu, sy’n ymwneud â hybu cyfle cyfartal a hybu addysg uwch;
(b) pennu cyfran y ffioedd sy’n daladwy gan bersonau cymhwysol sy’n ymgymryd â chyrsiau cymhwysol y bydd y corff llywodraethu yn ei gwario ar yr amcanion ym mharagraff (a).
6 
Rhaid i gynllun ffioedd a mynediad gynnwys darpariaethau sy’n ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu sefydliad—
(a) cymryd camau i ddenu ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr sy’n aelodau o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, neu sicrhau bod y camau hynny’n cael eu cymryd;
(b) cymryd camau i gadw myfyrwyr sy’n aelodau o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, neu sicrhau bod y camau hynny’n cael eu cymryd;
(c) darparu cymorth ariannol i fyfyrwyr, neu sicrhau bod y cymorth hwnnw’n cael ei ddarparu;
(d) rhoi gwybodaeth ar gael i fyfyrwyr neu ddarpar fyfyrwyr ynghylch y cymorth ariannol sydd ar gael i fyfyrwyr o unrhyw ffynhonnell, neu sicrhau bod yr wybodaeth honno’n cael ei rhoi ar gael;
(e) hysbysu unrhyw ddarpar fyfyriwr, cyn i’r myfyriwr ymrwymo i ymgymryd â chwrs, am swm agregedig y ffioedd y bydd y sefydliad yn ei godi ar gyfer cwblhau’r cwrs, neu sicrhau bod unrhyw ddarpar fyfyriwr yn cael ei hysbysu o’r swm hwnnw;
(f) monitro—
(i) cydymffurfedd â darpariaethau’r cynllun; a
(ii) y cynnydd sydd wedi ei wneud i gyflawni’r amcanion a nodir yn y cynllun.
Materion sydd i’w hystyried gan CCAUC
7 
Wrth wneud unrhyw benderfyniad mewn cysylltiad â chymeradwyo neu wrthod cynllun ffioedd a mynediad rhaid i CCAUC ystyried—
(a) yr angen i ddiogelu mynediad teg at addysg uwch;
(b) y darpariaethau sydd wedi eu cynnwys yn y cynllun ffioedd a mynediad sy’n ymwneud â hybu cyfle cyfartal a hybu addysg uwch;
(c) y ffioedd sy’n daladwy gan bersonau cymhwysol sy’n ymgymryd â chyrsiau cymhwysol;
(d) cyfran y ffioedd sy’n daladwy gan bersonau cymhwysol sy’n ymgymryd â chyrsiau cymhwysol y bydd y corff llywodraethu yn ei gwario ar hybu cyfle cyfartal a hybu addysg uwch;
(e) hyfywedd ariannol y sefydliad;
(f) y trefniadau ar gyfer trefnu a rheoli materion ariannol y sefydliad;
(g) ansawdd yr addysg a ddarperir gan, neu ar ran, y sefydliad.
Cyhoeddi cynllun ffioedd a mynediad a gymeradwywyd
8 
Pan fo CCAUC wedi cymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad, rhaid i’r corff llywodraethu ei gyhoeddi mewn dull sy’n ei wneud yn hawdd i fyfyrwyr a darpar fyfyrwyr gael gafael arno.
Amrywio cynlluniau ffioedd a mynediad
9 

(1) Caiff corff llywodraethu wneud cais i CCAUC gymeradwyo amrywiad i’r cynllun a gymeradwywyd tra bo’r cynllun a gymeradwywyd mewn grym.
(2) Dim ond os caiff ei gymeradwyo’n ysgrifenedig gan CCAUC y mae amrywiad i gynllun a gymeradwywyd i gymryd effaith.
(3) Wrth wneud unrhyw benderfyniad mewn cysylltiad â chymeradwyo neu wrthod amrywiad i’r cynllun a gymeradwywyd rhaid i CCAUC ystyried y materion a nodir yn rheoliad 7(a) i (d).
(4) Pan fo CCAUC wedi cymeradwyo amrywiad i gynllun a gymeradwywyd rhaid i’r corff llywodraethu gydymffurfio â rheoliad 8 fel petai, yn y rheoliad hwnnw, y gair “amrywiad” wedi ei roi yn lle “cynllun ffioedd a mynediad”.
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
7 Gorffennaf 2015