
2015 Rhif 1497 (Cy. 169)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Addysg Uwch (Dynodi Darparwyr Addysg Uwch) (Cymru) 2015
Gwnaed 7 Gorffennaf 2015
Yn dod i rym 13 Gorffennaf 2015

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 3(4) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol ag adran 55(3) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg Uwch (Dynodi Darparwyr Addysg Uwch) (Cymru) 2015 a deuant i rym ar 31 Gorffennaf 2015.
(2) Yn y Rheoliadau hyn—
(a) ystyr “Deddf 2015” (“the 2015 Act”) yw Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015;
(b) ystyr “rheoleiddiwr elusennau” (“charity regulator”) yw’r Comisiwn Elusennau, Swyddfa Rheoleiddiwr Elusennau’r Alban neu Gomisiwn Elusennau Gogledd Iwerddon;
(c) ystyr “dogfen lywodraethu” (“governing document”) yw—
(i) yn achos darparwr addysg uwch sy’n cael ei redeg gan gwmni, memorandwm ac erthyglau cymdeithasu’r cwmni;
(ii) mewn unrhyw achos arall, dogfen sy’n darparu ar gyfer cyfansoddiad y darparwr addysg uwch a’r ffordd y caiff ei redeg.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Cais am ddynodiad yn sefydliad
2 

(1) Rhaid i gais gan ddarparwr addysg uwch (“yr ymgeisydd”) am ddynodiad o dan adran 3(1) o Ddeddf 2015 fod yn ysgrifenedig a rhaid iddo gynnwys—
(a) enw a phrif gyfeiriad yr ymgeisydd;
(b) unrhyw enwau eraill y mae’r ymgeisydd yn gweithredu odanynt;
(c) gwybodaeth, gan gynnwys y materion hynny a bennir ym mharagraffau (2) a (3), sy’n ymwneud â statws elusennol yr ymgeisydd a’i ddarpariaeth o addysg uwch yng Nghymru.
(2) Rhaid i’r wybodaeth a geir mewn cais gynnwys naill ai—
(a) rhif cofrestru elusen yr ymgeisydd ac enw a chyfeiriad rheoleiddiwr elusennau y mae’r ymgeisydd wedi ei gofrestru ag ef; neu
(b) os nad yw’r ymgeisydd wedi ei gofrestru â rheoleiddiwr elusennau, y rheswm pam nad yw’n ofynnol iddo gofrestru â rheoleiddiwr elusennau.
(3) Rhaid i’r wybodaeth a geir mewn cais hefyd gynnwys—
(a) disgrifiad o’r addysg uwch a ddarperir gan yr ymgeisydd yng Nghymru;
(b) disgrifiad o’r dyfarniad y caniateir iddo gael ei roi i berson o ganlyniad i’r addysg uwch a ddarperir yng Nghymru gan yr ymgeisydd;
(c) nifer y personau yng Nghymru sy’n ymgymryd â’r addysg uwch honno ar ddyddiad y cais;
(d) yr ardal yng Nghymru lle y darperir addysg uwch;
(e) cyfeiriad unrhyw wefan a gynhelir gan yr ymgeisydd sy’n ymwneud â’r ddarpariaeth o addysg uwch yng Nghymru gan yr ymgeisydd hwnnw.
3 
Rhaid i gais o dan adran 3(1) o Ddeddf 2015 gynnwys gydag ef gopi o unrhyw brosbectws a gyhoeddir gan yr ymgeisydd sy’n ymwneud â’r ddarpariaeth o addysg uwch yng Nghymru gan yr ymgeisydd hwnnw.
4 
Rhaid i gais o dan adran 3(1) o Ddeddf 2015 hefyd gynnwys gydag ef gopi o ddogfen lywodraethu’r ymgeisydd os nad yw’r ymgeisydd wedi ei gofrestru â rheoleiddiwr elusennau.
Tynnu dynodiad yn ôl
5 

(1) Caiff Gweinidogion Cymru dynnu’n ôl ddynodiad a wneir o dan adran 3(1) o Ddeddf 2015 drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r darparwr addysg uwch.
(2) Rhaid i hysbysiad gynnwys—
(a) rhesymau Gweinidogion Cymru dros dynnu’r dynodiad yn ôl; a
(b) y dyddiad y tynnir y dynodiad yn ôl.
(3) Wrth benderfynu pa un ai i dynnu dynodiad yn ôl, rhaid i Weinidogion Cymru ystyried a yw’r darparwr bellach yn peidio â bod o fewn adran 3(2) o Ddeddf 2015.
Cymhwyso Deddf 2015 yn dilyn tynnu dynodiad yn ôl
6 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo dynodiad o dan adran 3(1) o Ddeddf 2015 wedi ei dynnu’n ôl.
(2) Mae darparwr addysg uwch i barhau i gael ei drin fel pe bai’n sefydliad at ddibenion adrannau 10 i 12, 13, 14 a 26 o Ddeddf 2015.
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
7 Gorffennaf 2015