
2015 Rhif 1496 (Cy. 168)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Addysg Uwch (Symiau) (Cymru) 2015
Gwnaed 7 Gorffennaf 2015
Yn dod i rym 31Gorffennaf 2015

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud gan Weinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 5(3), 5(9) a 55(2) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015.

Yn unol ag adran 55(3) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg Uwch (Symiau) (Cymru) 2015 a deuant i rym ar 31 Gorffennaf 2015.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 mae i “cwrs rhyngosod” (“sandwich course”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2015;
 ystyr “Deddf 2015” (“the 2015 Act”) yw Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015;
 ystyr “hyfforddiant cychwynnol athrawon” (“initial training of teachers”) yw hyfforddiant neu addysg â’r nod o wneud personau, nad ydynt yn athrawon, yn addas i fod yn athrawon;
 ystyr “sefydliad tramor” (“overseas institution”) yw sefydliad heblaw un yng Nghymru, Lloegr, Yr Alban, Gogledd Iwerddon, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw.
Yr uchafswm rhagnodedig
3 
Yn ddarostyngedig i reoliadau 4, 5 a 6, yr uchafswm rhagnodedig at ddibenion adran 5(3) o Ddeddf 2015 yw £9,000.
Yr uchafswm rhagnodedig ar gyfer blynyddoedd academaidd terfynol cyrsiau a blynyddoedd academaidd cyrsiau hyfforddiant cychwynnol athrawon
4 
At ddibenion adran 5(3) o Ddeddf 2015, rhagnodir mai’r uchafswm yw £4,500 mewn cysylltiad â:
(a) blwyddyn academaidd derfynol cwrs pan fo’n ofynnol i’r flwyddyn academaidd honno fel rheol gael ei chwblhau ar ôl llai na 15 wythnos o bresenoldeb;
(b) cwrs hyfforddiant cychwynnol athrawon (gan gynnwys cwrs o’r fath sy’n arwain at radd gyntaf), blwyddyn academaidd pryd y mae cyfanswm unrhyw gyfnodau o astudio llawnamser yn llai na 10 wythnos.
Yr uchafswm rhagnodedig ar gyfer cyrsiau rhyngosod
5 
At ddibenion adran 5(3) o Ddeddf 2015, rhagnodir mai’r uchafswm yw £1,800 mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd cwrs rhyngosod:
(a) pryd y mae cyfanswm unrhyw gyfnodau o astudio llawnamser yn llai na 10 wythnos; neu
(b) os yw cyfanswm unrhyw un neu ragor o gyfnodau o bresenoldeb nad ydynt yn gyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad (gan ddiystyru gwyliau yn y cyfamser), mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol ar y cwrs, yn fwy na 30 wythnos.
Yr uchafswm rhagnodedig ar gyfer astudio a lleoliadau gwaith dramor
6 
At ddibenion adran 5(3) o Ddeddf 2015, rhagnodir mai’r uchafswm yw £1,350 mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd cwrs a ddarperir ar y cyd â sefydliad tramor:
(a) pryd y mae cyfanswm unrhyw gyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig yn llai na 10 wythnos; neu
(b) os yw cyfanswm unrhyw un neu ragor o gyfnodau o bresenoldeb nad ydynt yn gyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig (gan ddiystyru gwyliau yn y cyfamser), mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol ar y cwrs, yn fwy na 30 wythnos.
Ffioedd sy’n daladwy i bersonau eraill
7 
At ddibenion adran 5(9) o Ddeddf 2015, mae ffioedd i’w trin fel pe baent yn cael eu talu i sefydliad rheoleiddiedig o dan adran 5(2)(a) o Ddeddf 2015 yn yr amgylchiadau a ganlyn, sef pan fo’r ffioedd yn daladwy i berson mewn cysylltiad â chwrs cymhwysol a ddarperir ar ran sefydliad rheoleiddiedig gan y person hwnnw.
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
7 Gorffennaf 2015