
2015 Rhif 1466 (Cy. 160)
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Rheoliadau Byrddau Diogelu (Swyddogaethau a Gweithdrefnau) (Cymru) 2015
Gwnaed 1 Gorffennaf 2015
Yn dod i rym 6 Ebrill 2016

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 135(4) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Yn unol ag adran 196(6) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a chymeradwywyd ef ganddo drwy benderfyniad.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Byrddau Diogelu (Swyddogaethau a Gweithdrefnau) (Cymru) 2015.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Ebrill 2016.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “adolygiad ymarfer” ac “adolygu ymarfer” (“practice review”) yw naill ai adolygiad ymarfer cryno neu adolygiad ymarfer estynedig fel y darperir ar ei gyfer yn rheoliad 4;
 ystyr “Bwrdd” (“Board”) yw Bwrdd Diogelu;
 ystyr “Bwrdd Cenedlaethol” (“National Board”) yw’r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol a sefydlwyd gan adran 132(1) o’r Ddeddf;
 ystyr “Bwrdd Diogelu” (“Safeguarding Board”) yw Bwrdd Diogelu Plant neu Fwrdd Diogelu Oedolion;
 ystyr “cofrestr amddiffyn plant” (“child protection register”) yw rhestr a grëir ac a gynhelir gan awdurdod lleol ac sy’n cynnwys enwau plant sy’n destun cynllun amddiffyn plant o ganlyniad i benderfyniad mewn cynhadledd amddiffyn plant fod y plentyn mewn perygl parhaus o niwed o bwys ar ffurf camdriniaeth gorfforol, camdriniaeth emosiynol, camdriniaeth rywiol neu esgeulustod;
 ystyr “cynllun gweithredu” (“action plan”) yw adroddiad ysgrifenedig sy’n cael ei lunio gan Fwrdd yr un pryd ag adroddiad ar yr adolygiad ymarfer, gan fanylu ar y camau sydd i’w cymryd gan y cyrff cynrychioliadol o ganlyniad i ganfyddiadau ac argymhellion adroddiad yr adolygiad ymarfer;
 ystyr “digwyddiad dysgu amlasiantaethol” (“multi-agency learning event”) yw digwyddiad sy’n ffurfio rhan o’r broses adolygu ymarfer ac y mae Bwrdd yn gwahodd iddo ymarferwyr a rheolwyr o gyrff cynrychioliadol ac unrhyw gyrff neu bersonau eraill y bernir eu bod yn berthnasol gan Gadeirydd y Bwrdd ac sy’n ymwneud, neu sydd wedi ymwneud, â’r person sy’n destun yr adolygiad, at y diben o wella polisi ac ymarfer amddiffyn plant neu oedolion yn y dyfodol;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;
 ystyr “fforymau proffesiynol amlasiantaethol” (“multi-agency professional forums”) yw’r fforymau, a drefnir ac a hwylusir gan Fwrdd ar gyfer ymarferwyr a rheolwyr o gyrff cynrychioliadol, a chyrff neu bersonau eraill y bernir eu bod yn berthnasol gan Gadeirydd y Bwrdd, at y diben o ddysgu oddi wrth achosion, archwiliadau, arolygiadau ac adolygiadau er mwyn gwella polisi ac ymarfer amddiffyn plant neu oedolion yn y dyfodol;
 ystyr “oedolion” (“adults”) yw oedolion y mae arfer swyddogaethau Bwrdd yn effeithio, neu y gall effeithio, arnynt;
 ystyr “plant” (“children”) yw plant y mae arfer swyddogaethau Bwrdd yn effeithio, neu y gall effeithio, arnynt;
 ystyr “plentyn sy’n derbyn gofal” (“looked after child”) yw plentyn sy’n derbyn gofal gan:
(a) awdurdod lleol o dan adran 74(1) o’r Ddeddf,
(b) awdurdod lleol yn Lloegr o dan adran 22(1) o Ddeddf Plant 1989,
(c) awdurdod lleol yn yr Alban yn unol â Phennod 1 o Ran 2 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995,
(d) Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn unol ag erthygl 25 o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995.
Swyddogaethau Byrddau Diogelu
3 

(1) Mae paragraff (2) yn pennu swyddogaethau—
(a) Bwrdd Diogelu Plant mewn perthynas â’i amcanion o dan adran 135(1) o’r Ddeddf, a
(b) Bwrdd Diogelu Oedolion mewn perthynas â’i amcanion o dan adran 135(2) o’r Ddeddf.
(2) Y swyddogaethau yw—
(a) cydweithredu â Byrddau Diogelu eraill a’r Bwrdd Cenedlaethol gyda golwg ar—
(i) cyfrannu at ddatblygu ac adolygu polisïau a gweithdrefnau cenedlaethol ar gyfer Byrddau Diogelu,
(ii) gweithredu polisïau a gweithdrefnau cenedlaethol a argymhellir gan, a chanllawiau a chyngor a roddir gan, y Bwrdd Cenedlaethol;
(b) codi ymwybyddiaeth ledled ardal y Bwrdd Diogelu o amcanion y Bwrdd a sut y gallai’r rheini gael eu cyflawni;
(c) ymgymryd ag adolygiadau, archwiliadau ac ymchwiliadau perthnasol;
(d) adolygu effeithiolrwydd mesurau a gymerir gan y Bwrdd i gyflawni amcanion y Bwrdd;
(e) gwneud argymhellion yng ngoleuni’r adolygiadau hynny, monitro i ba raddau y mae’r argymhellion hynny wedi eu rhoi ar waith a chymryd camau priodol pan fo’n cael ei ddangos nad yw amcanion y Bwrdd yn cael eu cyflawni;
(f) lledaenu gwybodaeth am yr argymhellion hynny i Fyrddau Diogelu priodol eraill a’r Bwrdd Cenedlaethol;
(g) hwyluso ymchwil i faterion amddiffyn, ac atal cam-drin ac esgeuluso, plant neu oedolion sy’n wynebu risg o ddioddef niwed;
(h) adolygu anghenion hyfforddi personau sy’n gweithio i gyflawni amcanion y Bwrdd a hyrwyddo’r broses o ddarparu hyfforddiant addas ar eu cyfer;
(i) trefnu a hwyluso rhaglen flynyddol o fforymau proffesiynol amlasiantaethol;
(j) cydweithredu neu weithredu ar y cyd ag unrhyw gorff tebyg sydd wedi ei leoli mewn unrhyw awdurdodaeth pan fo’r Bwrdd o’r farn y byddai hynny’n ei gynorthwyo i gyflawni ei amcanion;
(k) sicrhau cyngor neu wybodaeth arbenigol sy’n berthnasol i gyrraedd amcanion y Bwrdd;
(l) ymgymryd ag adolygiadau ymarfer yn unol â rheoliad 4.
Adolygiadau ymarfer
4 

(1) Rhaid i Fwrdd gynnal adolygiad ymarfer yn unol â’r rheoliad hwn.
(2) Diben adolygiad ymarfer yw canfod unrhyw gamau y gall partneriaid y Bwrdd Diogelu neu gyrff eraill eu cymryd i wella ymarfer amddiffyn plant ac oedolion amlasiantaethol.
(3) Rhaid i Fwrdd gynnal adolygiad ymarfer cryno yn unrhyw un neu rai o’r achosion canlynol, pan fo’n hysbys neu pan amheuir, o fewn ardal y Bwrdd, fod plentyn neu oedolyn wedi ei gam-drin neu ei esgeuluso a—
(a) bod y plentyn neu’r oedolyn—
(i) wedi marw, neu
(ii) wedi dioddef anaf a allai roi ei fywyd mewn perygl, neu
(iii) wedi dioddef nam difrifol a pharhaol i’w iechyd neu i’w ddatblygiad; a
(b) o ran plentyn, nad oedd y plentyn ar y gofrestr amddiffyn plant nac yn blentyn a oedd yn derbyn gofal ar unrhyw ddyddiad yn ystod y 6 mis cyn—
(i) dyddiad y digwyddiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (a)(i) neu (a)(ii), neu
(ii) pan fo is-baragraff (a)(iii) yn gymwys, y dyddiad y mae awdurdod lleol, person neu gorff y cyfeirir atynt yn adran 28 o Ddeddf Plant 2004 neu gorff a grybwyllir yn adran 175 o Ddeddf Addysg 2002 yn canfod bod plentyn wedi dioddef nam difrifol a pharhaol i’w iechyd ac i’w ddatblygiad; ac
(c) o ran oedolyn, nad yw’r oedolyn wedi bod, ar unrhyw ddyddiad yn ystod y 6 mis cyn dyddiad y digwyddiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (a), yn berson y mae awdurdod lleol wedi penderfynu cymryd camau mewn cysylltiad ag ef i’w amddiffyn rhag cael ei gam-drin neu ei esgeuluso yn unol ag adran 32(1)(b)(i) o’r Ddeddf yn dilyn ymholiadau gan awdurdod lleol o dan adran 126(2) o’r Ddeddf.
(4) Rhaid i Fwrdd gynnal adolygiad ymarfer estynedig yn unrhyw un neu rai o’r achosion canlynol, pan fo’n hysbys neu pan amheuir, o fewn ardal y Bwrdd, fod plentyn neu oedolyn wedi ei gam-drin neu ei esgeuluso a—
(a) bod y plentyn neu’r oedolyn—
(i) wedi marw, neu
(ii) wedi dioddef anaf a allai roi ei fywyd mewn perygl, neu
(iii) wedi dioddef nam difrifol a pharhaol i’w iechyd neu i’w ddatblygiad; a
(b) o ran plentyn, bod y plentyn ar y gofrestr amddiffyn plant a/neu ei fod yn blentyn a oedd yn derbyn gofal ar unrhyw ddyddiad yn ystod y 6 mis cyn—
(i) dyddiad y digwyddiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (a)(i) neu (a)(ii), neu
(ii) pan fo is-baragraff (a)(iii) yn gymwys, y dyddiad y mae awdurdod lleol, person neu gorff y cyfeirir atynt yn adran 28 o Ddeddf Plant 2004 neu gorff a grybwyllir yn adran 175 o Ddeddf Addysg 2002 yn canfod bod plentyn wedi dioddef nam difrifol a pharhaol i’w iechyd a’i ddatblygiad; ac
(c) o ran oedolyn, bod yr oedolyn wedi bod, ar unrhyw ddyddiad yn ystod y 6 mis cyn dyddiad y digwyddiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (a), yn berson y mae awdurdod lleol wedi penderfynu cymryd camau mewn cysylltiad ag ef i’w amddiffyn rhag cael ei gam-drin neu ei esgeuluso yn unol ag adran 32(1)(b)(i) o’r Ddeddf yn dilyn ymholiadau gan awdurdod lleol o dan adran 126(2) o’r Ddeddf.
(5) Wrth gynnal adolygiad ymarfer, rhaid i Fwrdd—
(a) gofyn i bob corff cynrychioliadol roi gwybodaeth yn ysgrifenedig i’r Bwrdd am ei ymwneud â’r plentyn neu’r oedolyn sy’n destun yr adolygiad;
(b) sicrhau y ceir persbectif y plentyn neu’r oedolyn sy’n destun yr adolygiad a bod persbectif y plentyn neu’r oedolyn hwnnw yn cyfrannu at y broses adolygu, i’r graddau y bo’n ymarferol a phriodol i amgylchiadau’r achos;
(c) sicrhau y ceir persbectifau aelodau o’r teulu neu gynrychiolydd penodedig y plentyn neu’r oedolyn sy’n destun yr adolygiad a bod y persbectifau hyn yn cyfrannu at y broses adolygu, i’r graddau y bo’n ymarferol a phriodol i amgylchiadau’r achos;
(d) cynnal digwyddiad dysgu amlasiantaethol ar ôl cael yr wybodaeth ysgrifenedig y cyfeirir ati yn is-baragraff (a);
(e) yn achos adolygiad ymarfer cryno, sicrhau bod y digwyddiad dysgu amlasiantaethol y cyfeirir ato yn is-baragraff (d) yn cael ei drefnu a’i hwyluso gan un adolygydd a benodir gan y Bwrdd;
(f) yn achos adolygiad ymarfer estynedig, sicrhau bod y digwyddiad dysgu amlasiantaethol y cyfeirir ato yn is-baragraff (d) yn cael ei drefnu a’i hwyluso gan ddau adolygydd a benodir gan y Bwrdd;
(g) sicrhau bod unrhyw adolygydd y cyfeirir ato yn is-baragraff (e) neu (f) yn annibynnol ar unrhyw ymwneud uniongyrchol â gwaith achos neu reoli achosion mewn cysylltiad â’r plentyn neu’r oedolyn sy’n destun yr adolygiad;
(h) llunio adroddiad ar yr adolygiad ymarfer sy’n argymell pa gamau (os o gwbl) y mae’n ofynnol eu cymryd ar ôl y digwyddiad dysgu amlasiantaethol;
(i) sicrhau nad yw’r adroddiad ar yr adolygiad ymarfer yn datgelu pwy yw’r plentyn neu’r oedolyn sy’n destun yr adolygiad na theulu’r plentyn neu’r oedolyn na lle y maent;
(j) llunio cynllun gweithredu gan fanylu ar y camau sydd i’w cymryd gan y cyrff cynrychioliadol i weithredu argymhellion yr adroddiad ar yr adolygiad ymarfer;
(k) rhoi copi o’r adroddiad ar yr adolygiad ymarfer a’r cynllun gweithredu i Weinidogion Cymru ac i’r Bwrdd Cenedlaethol;
(l) trefnu bod yr adroddiad ar yr adolygiad ymarfer ar gael i’r cyhoedd;
(m) cynnal adolygiadau cynnydd cyfnodol ar roi’r cynllun gweithredu ar waith;
(n) rhoi i Weinidogion Cymru a’r Bwrdd Cenedlaethol adroddiad ysgrifenedig ar ôl unrhyw adolygiad cynnydd y cyfeirir ato yn is-baragraff (m), gan adrodd ar y cynnydd o ran rhoi’r cynllun gweithredu ar waith a’r effaith ar bolisi ac ymarfer amddiffyn plant neu oedolion yng Nghymru;
(o) rhoi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir iddo gan Weinidogion Cymru, drwy arfer ei swyddogaethau o dan y rheoliad hwn.
(6) Yn y rheoliad hwn ystyr “cynrychiolydd penodedig” (“appointed representative”) yw person sydd â’r awdurdod i siarad neu weithredu ar ran plentyn neu oedolyn.
Gweithdrefnau Byrddau Diogelu
5 

(1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r rheoliad hwn, mae Bwrdd Diogelu i benderfynu ei weithdrefnau ei hun a threfnu bod copi o’r gweithdrefnau hynny ar gael i’r cyhoedd.
(2) Yng nghyfarfod cyntaf Bwrdd, rhaid i’r aelodau sy’n bresennol benodi un o’r aelodau i fod yn Gadeirydd ac un i fod yn Is-gadeirydd.
(3) Rhaid i’r Bwrdd gytuno ar reolau gweithredu ar gyfer cyfarfodydd y Bwrdd, gan gynnwys person i lywyddu mewn cyfarfodydd.
(4) Oni fydd rheolau gweithredu’r Bwrdd yn darparu fel arall, rhaid i’r Bwrdd weithredu’n unol â phleidlais mwyafrif syml o’r aelodau sy’n bresennol, a’r person sy’n llywyddu yn y cyfarfod yn cael ail bleidlais neu bleidlais fwrw os bydd y bleidlais yn gyfartal.
(5) Ym mhob cyfarfod o’r Bwrdd rhaid i’r Bwrdd ystyried sut y bydd yn rhoi cyfle i blant neu oedolion gymryd rhan yng ngwaith y Bwrdd.
(6) Yn ei gyfarfod nesaf ar ôl i blentyn neu oedolyn gymryd rhan yng ngwaith y Bwrdd, rhaid i’r Bwrdd werthuso effeithiolrwydd y cymryd rhan hwnnw.
(7) Rhaid i’r Bwrdd gadw cofnodion o’i gyfarfodydd; mae’r cofnodion i gofnodi’r penderfyniadau a wnaed, y dystiolaeth y gwnaed penderfyniadau arni, unrhyw farn ac unrhyw farn anghydsyniol a fynegwyd ac unrhyw drafodaeth am blentyn neu oedolyn yn cymryd rhan yng ngwaith y Bwrdd.
(8) Daw penodiad Cadeirydd neu Is-gadeirydd i ben:
(a) os oedd y penodiad am gyfnod penodol a bod y cyfnod hwnnw yn dirwyn i ben;
(b) os yw’r person a benodwyd yn ymddiswyddo;
(c) os nad yw’r person a benodwyd bellach yn aelod o’r Bwrdd;
(d) os yw’r aelodau, drwy benderfyniad y mwyafrif, yn penderfynu hynny.
Cyfle i gymryd rhan yng ngwaith Byrddau Diogelu
6 
O leiaf unwaith y flwyddyn rhaid i Fwrdd Diogelu, fel y bo’n berthnasol, roi cyfle i blant neu oedolion gymryd rhan mewn digwyddiad lle y bydd ganddynt gyfle i gymryd rhan yng ngwaith y Bwrdd.
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
1 Gorffennaf 2015