
2015 Rhif 1413 (Cy. 140) (C. 79)
Y Gymraeg
Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 10) 2015
Gwnaed 23 Mehefin 2015
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 156(2) o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 10) 2015.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “Mesur” (“Measure”) yw Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.
Darpariaethau a gychwynnir ar 6 Gorffennaf 2015 ar gyfer yr Alban a Gogledd Iwerddon
2 
Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Mesur i rym ar 6 Gorffennaf 2015 i’r graddau y maent yn rhychwantu’r Alban a Gogledd Iwerddon—
(a) adran 144(3)(a) (Diddymu swyddogaethau cyffredinol y Bwrdd a disodli cynlluniau gan safonau) o Ran 9 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym; a
(b) adran 145(2) (Disodli cynlluniau iaith Gymraeg gan safonau) o Ran 9 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym.
Darpariaethau a gychwynnir ar 7 Gorffennaf 2015
3 
Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Mesur i rym ar 7 Gorffennaf 2015—
(a) Rhan 2 (Comisiynydd y Gymraeg) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(b) Rhan 4 (Safonau) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(c) Rhan 5 (Gorfodi safonau);
(d) Rhan 8 (Cyffredinol) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(e) adran 144(1), (2) a (3)(a) o Ran 9 (Diddymu swyddogaethau cyffredinol y Bwrdd a disodli cynlluniau gan safonau) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(f) Atodlen 2 (Ymholiadau gan y Comisiynydd) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(g) Atodlen 3 (Diwygiadau ynglŷn â gweithio ar y cyd a gweithio’n gyfochrog); a
(h) Atodlen 10 (Ymchwiliad y Comisiynydd i fethiant i gydymffurfio â safonau etc).
Carwyn Jones
Prif Weinidog Cymru
23 Mehefin 2015