
2015 Rhif 1394 (Cy. 138)
Diogelu’r Amgylchedd, Cymru
Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Diwygio) (Cymru) 2015
Gwnaed 17 Mehefin 2015
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 19 Mehefin 2015
Yn dod i rym 19 Gorffennaf 2015

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas ag atal ac adfer difrod amgylcheddol ac yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan yr adran honno fel y’i darllenir gyda pharagraff 1A o Atodlen 2 i’r Ddeddf honno.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009 (“Rheoliadau 2009”). Mae rheoliad 3 o Reoliadau 2009 yn darparu bod cyfeiriadau at offerynnau’r UE yn gyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y’u diwygir o dro i dro. Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer diben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf 1972 a pharagraff 1A o Atodlen 2 i’r Ddeddf honno. At ddibenion Rheoliadau 2009 fel y maent yn cael effaith fel y’u diwygir gan y Rheoliadau hyn, mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i offerynnau’r UE y cyfeirir atynt yn Rheoliadau 2009 gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y’u diwygir o dro i dro.
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Diwygio) (Cymru) 2015.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 19 Gorffennaf 2015 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, mae i “Cymru” yr ystyr a roddir i “Wales” o dan adran 158 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
Diwygiadau i Reoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009
2 

(1) Mae Rheoliadau Difrod (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli), yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder—“
 ystyr “dyfroedd morol” (“marine waters”) yw dyfroedd sy’n cael eu dosbarthu’n ddyfroedd morol yn unol â Chyfarwyddeb 2008/56/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n sefydlu fframwaith ar gyfer gweithredu Cymunedol ym maes polisi amgylcheddol morol;”;“
 ystyr “gwaelodlin” (“baseline”) yw’r gwaelodlinau y mesurir lled y môr tiriogaethol ohonynt at ddibenion Deddf Moroedd Tiriogaethol 1987;”.
(3) Yn rheoliad 4 (ystyr “difrod amgylcheddol”)—
(a) ym mharagraff (1)—
(i) yn is-baragraff (b) hepgorer yr ail “neu”;
(ii) hepgorer is-baragraff (c) a mewnosoder—“
(c) dyfroedd morol, neu
(d) tir,”; a
(b) hepgorer paragraff (5) a mewnosoder—“
(5) Ystyr difrod amgylcheddol i ddyfroedd morol yw difrod i ddyfroedd morol sy’n effeithio’n sylweddol andwyol ar eu statws amgylcheddol.
(6) Ystyr difrod amgylcheddol i dir yw halogi’r tir â sylweddau, paratoadau, organeddau neu ficro-organeddau sy’n arwain at risg sylweddol o effeithiau andwyol ar iechyd dynol.”.
(4) Yn rheoliad 6 (yr ardaloedd lle mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys)—
(a) ym mharagraff (1)—
(i) ar ôl y cofnod yn y tabl “Difrod i ddŵr” creer rhes newydd ac yn y golofn gyntaf (Y math o ddifrod) mewnosoder “Difrod i ddyfroedd morol”; a
(ii) yn y cofnod cyfatebol yn yr ail golofn (Yr ardal lle mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys) mewnosoder—“
 Yr holl ddyfroedd morol o fewn unrhyw un neu ragor o’r disgrifiadau a ganlyn—
(a) dyfroedd morol hyd at un filltir fôr tua’r môr o’r gwaelodlin yng Nghymru i’r graddau nad ydynt wedi cael sylw fel difrod i ddŵr eisoes;
(b) dyfroedd morol o un filltir fôr tua’r môr o’r gwaelodlin yng Nghymru, gan ymestyn i 12 milltir fôr o’r gwaelodlin yng Nghymru”; a
(b) hepgorer paragraff (2).
(5) Ar ôl rheoliad 8(1) (esemptiadau) mewnosoder—“
(1A) Mae paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â’r difrod i ddyfroedd morol fel petai “19 Gorffennaf 2015” wedi ei roi yn lle “i’r rheoliadau hyn ddod i rym” yn is-baragraff (a).”
(6) Yn rheoliad 10 (yr awdurdodau gorfodi o dan Reoliadau Caniatáu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010) hepgorer paragraff (3)(b)(iii) a mewnosoder—“
(iii) Gweinidogion Cymru, os yw’r difrod i ddyfroedd morol; a
(iv) Corff Adnoddau Naturiol Cymru, os yw’r difrod i gynefinoedd naturiol neu rywogaethau a warchodir neu safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig.”
(7) Yn rheoliad 11(1) (Yr awdurdodau gorfodi mewn achosion eraill) ar ôl y cofnod yn y tabl “Difrod i ddŵr—” creer rhes newydd a mewnosoder—
(a) yng ngholofn gyntaf y tabl (Y math o ddifrod amgylcheddol) “Difrod i ddyfroedd morol—”;
(b) yn y cofnod cyfatebol yn yr ail golofn (Man y difrod) mewnosoder “Yr holl ddyfroedd morol hyd at 12 milltir fôr o’r gwaelodlin yng Nghymru”; ac
(c) yn y cofnod cyfatebol yn y drydedd golofn (Yr awdurdod gorfodi) mewnosoder “Gweinidogion Cymru”.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru
17 Mehefin 2015