
2015 Rhif 1367 (Cy. 135)
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesiadau Poblogaeth) (Cymru) 2015
Gwnaed 5 Mehefin 2015
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 12 Mehefin 2015
Yn dod i rym 6 Ebrill 2016
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 14(1) a (2) a 198(1) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesiadau Poblogaeth) (Cymru) 2015.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 6 Ebrill 2016 ac yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
 mae i “adroddiad asesiad poblogaeth” (“population assessment report”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 5;
 ystyr “asesiad poblogaeth” (“population assessment”) yw’r asesiad y mae’n ofynnol ei gynnal o dan adran 14(1) o’r Ddeddf;
 ystyr “y cyrff cyfrifol” (“the responsible bodies”) yw’r cyrff sy’n gyfrifol am gynnal asesiad poblogaeth;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;
 ystyr “gwasanaethau ataliol” (“preventative services”) yw gwasanaethau y mae’r awdurdod lleol o’r farn y byddent yn sicrhau unrhyw un neu ragor o’r dibenion yn adran 15(2) o’r Ddeddf.
Sicrhau canlyniadau llesiant
2 
Wrth gynnal asesiad poblogaeth, rhaid i’r cyrff cyfrifol roi sylw i’r canlyniadau a’r mesurau a bennir yn y datganiad a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 8 o’r Ddeddf (dyletswydd i ddyroddi datganiad ynghylch y canlyniadau sydd i’w sicrhau).
Ymgysylltu â dinasyddion
3 

(1) Wrth gynnal asesiad poblogaeth, rhaid i’r cyrff cyfrifol gymryd camu rhesymol i ymgysylltu â’r canlynol—
(a) pobl yn ardal yr awdurdod lleol y mae arnynt neu y gall fod arnynt anghenion am ofal a chymorth,
(b) pobl yn ardal yr awdurdod lleol sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blant y mae arnynt neu y gall fod arnynt anghenion am ofal a chymorth, ac
(c) gofalwyr yn ardal yr awdurdod lleol y mae arnynt neu y gall fod arnynt anghenion am gymorth.
(2) Rhaid i’r cyrff cyfrifol sefydlu gweithdrefn ar gyfer yr ymgysylltu sy’n ofynnol gan baragraff (1).
Ymgysylltu â’r sector preifat a’r trydydd sector
4 

(1) Wrth gynnal asesiad poblogaeth, rhaid i’r cyrff cyfrifol ymgysylltu ag unrhyw sefydliad sector preifat neu unrhyw sefydliad trydydd sector sy’n ymwneud â, neu sy’n ymddiddori mewn, darparu gofal a chymorth neu wasanaethau ataliol i’r boblogaeth leol.
(2) At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “sefydliad trydydd sector” yw sefydliad y gallai person farnu’n rhesymol ei fod yn sefydliad sy’n bodoli’n gyfan gwbl neu’n bennaf i ddarparu buddion i’r gymdeithas.
Adroddiad asesiad poblogaeth
5 

(1) Rhaid i’r cyrff cyfrifol lunio ar y cyd adroddiad ar ganlyniad yr asesiad poblogaeth sydd wedi ei gynnal ganddynt.
Cyhoeddi adroddiad asesiad poblogaeth
6 

(1) Rhaid llunio’r adroddiad asesiad poblogaeth cyntaf erbyn 1 Ebrill 2017.
(2) Rhaid i bob awdurdod lleol gyhoeddi ar ei wefan yr adroddiad asesiad poblogaeth a luniwyd ar gyfer ei ardal.
(3) Rhaid i bob Bwrdd Iechyd lleol gyhoeddi ar ei wefan yr adroddiadau asesiad poblogaeth a luniwyd ar gyfer ardaloedd yr awdurdodau lleol sydd o fewn ei ardal.
(4) Rhaid i bob awdurdod lleol gyflwyno i Weinidogion Cymru gopi o’r adroddiad asesiad poblogaeth a luniwyd ar gyfer ei ardal.
Adolygu adroddiadau asesiad poblogaeth
7 
Rhaid i’r cyrff cyfrifol gydadolygu’n gyson yr adroddiad asesiad poblogaeth a chaniateir iddynt ddyroddi adendwm i’r adroddiad pryd bynnag y byddant o’r farn ei bod yn briodol gwneud hynny.
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
5 Mehefin 2015