
2015 Rhif 1363 (Cy. 133)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Rheoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) (Diwygio) 2015
Gwnaed 2 Mehefin 2015
Yn dod i rym 1 Hydref 2015
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 5, 8(3), 9(1A), 10(1) a (2), o Ddeddf Iechyd 2006 a pharagraff 4 o Atodlen 1 i’r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol, y gosodwyd drafft ohonynt gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 79(4A) o’r Ddeddf honno.
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) (Diwygio) 2015 a deuant i rym ar 1 Hydref 2015 .
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) 2007.
Diwygio’r prif Reoliadau
2 

(1) Yn rheoliad 1(3) o’r prif Reoliadau (dehongli)—
(a) yn y mannau priodol, mewnosoder y diffiniadau canlynol—“
 ystyr “carafán” (“caravan”) yw ôl-gerbyd a gynlluniwyd i’w ddefnyddio ar ffyrdd ac sy’n darparu llety preswyl symudol;”;“
 ystyr “carafán modur” (“motor caravan”) yw cerbyd modur a adeiladwyd neu a addaswyd ar gyfer cludo teithwyr a’u heiddo personol ac sy’n cynnwys, ar ffurf cyfarpar gosodedig parhaol, y cyfleusterau sy’n rhesymol angenrheidiol i alluogi’r cerbyd i ddarparu llety preswyl i’w ddefnyddwyr;”;“
 mae i “ffordd” yr ystyr a roddir i “road” yn adran 192(1) o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988”.
(2) Ar ôl rheoliad 4 o’r prif Reoliadau (cerbydau di-fwg) mewnosoder y canlynol—“
Cerbydau preifat sydd â phlant yn bresennol
4A. 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau canlynol y rheoliad hwn, mae cerbyd preifat neu unrhyw ran o gerbyd preifat yn ddi-fwg—
(a) os yw’n gaeedig,
(b) os oes mwy nag un person yn bresennol yn y cerbyd, ac
(c) os oes person o dan 18 oed yn bresennol yn y cerbyd.
(2) Mae cerbyd neu ran o gerbyd yn gaeedig at ddibenion paragraff (1) pan fo ganddo ddrysau neu ffenestri y gellir eu hagor, ond nid yw’n gaeedig onid oes to yn ei orchuddio yn gyfan gwbl neu’n rhannol.
(3) Yn y rheoliad hwn nid yw “to” yn cynnwys unrhyw do a gadwyd yn gyfan gwbl o’r neilltu fel nad yw’n gorchuddio unrhyw ran o gompartment y gall personau deithio ynddo.
(4) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i bob cerbyd ac eithrio—
(a) carafán neu garafán modur sy’n sefydlog ac nad yw ar ffordd;
(b) carafán neu garafán modur sy’n sefydlog ac ar ffordd, ac sy’n cael ei defnyddio fel llety preswyl;
(c) awyren;
(d) llongau neu hofrenfadau y gellid gwneud rheoliadau yn eu cylch o dan adran 85 o Ddeddf Llongau Masnach 1995 (iechyd a diogelwch ar longau), gan gynnwys yr adran honno fel y’i cymhwysid gan unrhyw orchymyn y Cyfrin Gyngor o dan adran 1(1)(h) o Ddeddf Hofrenfadau 1968.”
(3) Ar ôl rheoliad 7 o’r prif Reoliadau (dyletswydd i atal ysmygu mewn cerbydau di-fwg), mewnosoder—“
Dyletswydd i atal ysmygu mewn cerbydau preifat di-fwg
7A. 
Mae gyrrwr cerbyd sy’n ddi-fwg yn rhinwedd rheoliad 4A o dan dyletswydd i beri bod unrhyw berson sy’n ysmygu yn y cerbyd yn stopio ysmygu.
Cosbau penodedig
7B. 
Caiff swyddog awdurdodedig awdurdod gorfodi, sydd â rheswm i gredu bod person wedi cyflawni trosedd o dan adran 8(4) o’r Ddeddf mewn perthynas â cherbyd sy’n ddi-fwg yn rhinwedd rheoliad 4A, roi i’r person hwnnw hysbysiad o gosb mewn perthynas â’r drosedd.”
(4) Yn yr Atodlen i’r prif Reoliadau (Ffurfiau ar Hysbysiad o Gosb), yn lle ffurflen rhif 2 rhodder y ffurflen sydd yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn.
(5) Yn rheoliad 8 o’r prif Reoliadau (gorfodi: dynodi awdurdodau gorfodi), ar ôl paragraff (3) ychwaneger—“
(4) Dynodir Prif Swyddog pob heddlu yn awdurdod gorfodi at ddibenion Pennod 1 o Ran 1 o’r Ddeddf.
(5) Mae gan awdurdod gorfodi a ddynodir o dan baragraff (4) swyddogaethau gorfodi mewn perthynas â cherbydau sydd—
(a) yn ddi-fwg yn rhinwedd rheoliad 4A; a
(b) o fewn yr ardal heddlu y cynhelir yr heddlu dan sylw ar ei chyfer ”.
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
2 Mehefin 2015
YR ATODLEN
Rheoliad 2(4)










