
2015 Rhif 1330 (Cy. 123)
Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru
Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygio) 2015
Gwnaed 20 Mai 2015
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 22 Mai 2015
Yn dod i rym 22 Mehefin 2015
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 55, 65, 69, 71, 78, 78A a 333 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (“Deddf 1990”) sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy, a thrwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 54 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (“Deddf 2004”), sydd bellach hefyd yn arferadwy ganddynt hwy, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygio) 2015 a daw i rym ar 22 Mehefin 2015.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys i’r holl dir yng Nghymru.
Diwygiadau i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012
2 
Mae Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012 wedi ei ddiwygio yn unol â’r darpariaethau canlynol.
Dehongli
3 
Yn erthygl 2(1)—
(a) ar ôl y diffiniad o “cais AEA” mewnosoder—“
 ystyr “cais deiliad tŷ” (“householder application”) yw cais am—
(a) caniatâd cynllunio ar gyfer estyn, gwella neu addasu tŷ annedd mewn ffordd arall, neu ddatblygiad o fewn cwrtil tŷ annedd o’r fath, neu
(b) newid defnydd er mwyn ehangu cwrtil tŷ annedd,at unrhyw ddiben sy’n ategol i fwynhau’r tŷ annedd ond nad yw’n cynnwys—
(i) unrhyw gais arall am newid defnydd,
(ii) cais i godi tŷ annedd, neu
(iii) cais i newid nifer yr anheddau mewn adeilad;”;
(b) ar ôl y diffiniad o “cais deiliad tŷ” mewnosoder—“
 ystyr “cais masnachol bach” (“minor commercial application”) yw cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer ehangu, gwella neu addasu adeilad presennol o ddim mwy na 250 metr sgwâr gros o arwynebedd llawr allanol ar lefel y llawr daear mewn ffordd arall, neu ran o’r adeilad hwnnw, sy’n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd at unrhyw un o’r dibenion a nodir yn Atodlen 1A i’r Gorchymyn hwn sydd yn gais am—
(a) newid y defnydd o unrhyw un o’r dibenion a nodir ym mharagraff 1 yn Atodlen 1A i’r Gorchymyn hwn i unrhyw un o’r dibenion a nodir un ai ym mharagraff 2 neu ym mharagraff 3 o’r Atodlen honno;
(b) newid y defnydd o unrhyw un o’r dibenion a nodir ym mharagraff 2 yn Atodlen 1A i’r Gorchymyn hwn i unrhyw un o’r dibenion a nodir ym mharagraff 3 o’r Atodlen honno; neu
(c) cyflawni gwaith adeiladu neu weithrediadau eraill i flaen siop;”.
Diwygiadau yn ymwneud â gweithrediadau mewnol penodol
4 
Ar ôl erthygl 2 mewnosoder—“
Datblygiad i gynnwys gweithrediadau mewnol penodol
2A. 
Nid yw is-adran (2) o adran 55 o Ddeddf 1990 yn gymwys i weithrediadau a grybwyllir ym mharagraff (a) o’r is-adran honno sy’n cael yr effaith o gynyddu arwynebedd llawr yr adeilad mwy na 200 metr sgwâr mewn amgylchiadau pan fo’r adeilad yn cael ei ddefnyddio i fanwerthu nwyddau ac eithrio bwyd poeth.”
Diwygiadau yn ymwneud â chyhoeddusrwydd ar gyfer ceisiadau am ganiatâd cynllunio
5 
Yn erthygl 12(7)—
(a) ar ddiwedd is-baragraff (ch), hepgorer “a”;
(b) ar ddiwedd is-baragraff (d), rhodder—“; ac
(dd) yn achos cais deiliad tŷ neu gais masnachol bach, os digwydd apêl sy’n dilyn y weithdrefn hwylusach, y bydd unrhyw sylwadau a wneir ynglŷn â’r cais yn cael eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru ac na fydd cyfle i wneud sylwadau pellach.”
Diwygiadau yn ymwneud ag ymgynghoriadau cyn rhoi caniatâd
6 
Yn erthygl 14(4)(b) yn lle’r ddau gyfeiriad at “14 diwrnod” rhodder “21 diwrnod”.
Diwygiadau yn ymwneud â’r ddyletswydd i ymateb i ymgynghoriad
7 
Ar ôl erthygl 15 mewnosoder—“
Dyletswydd i ymateb i ymgynghoriad
15A. 

(1) Y gofyniad i ymgynghori a ragnodir at ddibenion adran 54(2)(b) o Ddeddf 2004 (dyletswydd i ymateb i ymgynghoriad) yw’r hwn sydd wedi ei gynnwys yn erthygl 14.
(2) At ddibenion adran 54(4)(a) o Ddeddf 2004, 21 diwrnod yw’r cyfnod a ragnodir gan ddechrau gyda’r diwrnod—
(a) y rhoddir yr hysbysiad y cyfeirir ato yn 14(4)(a); neu
(b) os yn gynharach, dyddiad cyflwyno copi o’r cais i’r ymgynghorai,
neu gyfnod arall o’r fath fel y cytunir yn ysgrifenedig rhwng yr ymgynghorai a’r ymgynghorwr.
(3) At ddibenion yr erthygl hon ac erthygl 15B, ac yn unol ag adran 54(5)(c) o Ddeddf 2004, ymateb o sylwedd yw ymateb sy’n—
(a) datgan nad oes gan yr ymgynghorai unrhyw sylw i’w fynegi;
(b) datgan nad oes gan yr ymgynghorai wrthwynebiad i’r datblygiad arfaethedig ac sy’n atgyfeirio’r ymgynghorwr at gyngor sefydlog cyfredol gan yr ymgynghorai ar destun yr ymgynghoriad;
(c) rhoi gwybod i’r ymgynghorwr am unrhyw bryderon a ganfuwyd mewn perthynas â’r datblygiad arfaethedig a sut y gall yr ymgeisydd roi sylw i’r pryderon hynny; neu
(ch) rhoi gwybod bod yr ymgynghorai’n gwrthwynebu’r datblygiad arfaethedig ac yn nodi’r rhesymau dros y gwrthwynebiad.
Dyletswydd i ymateb i ymgynghoriad: adroddiadau blynyddol
15B. 

(1) Rhaid i bob ymgynghorai sydd, yn rhinwedd adran 54 o Ddeddf 2004 ac erthygl 15A, o dan ddyletswydd i ymateb i ymgynghoriad roi adroddiad i Weinidogion Cymru ar gydymffurfiad yr ymgynghorai hwnnw ag adran 54(4) o Ddeddf 2004 ddim hwyrach nag 1 Gorffennaf ym mhob blwyddyn, gan ddechrau gydag 1 Gorffennaf 2017.
(2) Rhaid i’r adroddiad ymwneud â’r cyfnod o 12 mis sy’n cychwyn ar 1 Ebrill yn y flwyddyn flaenorol (“y flwyddyn adrodd”).
(3) Rhaid i’r adroddiad gynnwys datganiad ynglŷn â’r canlynol, mewn cysylltiad ag unrhyw flwyddyn adrodd—
(a) nifer yr achlysuron yr ymgynghorwyd â’r ymgynghorai;
(b) nifer yr achlysuron y darparwyd ymateb o sylwedd;
(c) pa bryd y darparwyd yr ymateb o sylwedd; ac
(ch) nifer yr achlysuron y rhoddodd yr ymgynghorai ymateb o sylwedd y tu allan i’r cyfnod a ragnodwyd at ddibenion adran 54(4) o Ddeddf 2004 a chrynodeb o’r rhesymau dros hynny.”
Diwygiadau yn ymwneud ag apelau
8 

(1) Yn erthygl 26(1)(b), yn lle’r geiriau “mharagraff (3)(d)” rhodder “mharagraff (3)(a)(ii) neu (3)(b)(v)”.
(2) Yn erthygl 26(2)—
(a) ar ôl y geiriau “ym mharagraff (1) yw” hepgorer “chwe mis ar ôl”;
(b) yn lle is-baragraffau (a), (b) ac (c) rhodder—“
(a) yn achos apêl deiliad tŷ neu apêl fasnachol fach, deuddeg wythnos o ddyddiad yr hysbysiad o’r penderfyniad neu’r dyfarniad sy’n arwain at yr apêl;
(b) yn achos unrhyw apêl arall o dan adran 78(1), chwe mis ar ôl—
(i) dyddiad yr hysbysiad o’r penderfyniad neu’r dyfarniad sy’n arwain at yr apêl; neu
(ii) mewn achos pan fo’r awdurdod cynllunio lleol wedi cyflwyno hysbysiad i’r ceisydd yn unol ag erthygl 3(2) bod arno angen gwybodaeth bellach ac nad yw’r ceisydd wedi darparu’r wybodaeth, dyddiad cyflwyno’r hysbysiad hwnnw;”.
(3) Yn lle erthygl 26(3) rhodder—“
(3) Y dogfennau a grybwyllir ym mharagraff (1) yw—
(a) yn achos apêl deiliad tŷ neu apêl fasnachol fach—
(i) copi o’r cais a anfonwyd at yr awdurdod cynllunio lleol ac a arweiniodd at yr apêl;
(ii) unrhyw blaniau, dogfennau neu luniadau eraill yn ymwneud â’r cais nad oeddynt wedi eu hanfon at yr awdurdod cynllunio lleol, ac eithrio unrhyw blaniau, dogfennau neu luniadau yn ymwneud â diwygiadau i’r cais arfaethedig ar ôl i’r awdurdod cynllunio lleol wneud eu penderfyniad; ac
(iii) yr hysbysiad o’r penderfyniad neu’r dyfarniad;
(b) yn achos unrhyw apêl arall a wnaed o dan adran 78—
(i) y cais a wnaed i’r awdurdod cynllunio lleol ac a arweiniodd at yr apêl;
(ii) yr holl blaniau, lluniadau a dogfennau a anfonwyd at yr awdurdod mewn cysylltiad â’r cais;
(iii) yr holl ohebiaeth â’r awdurdod sy’n ymwneud â’r cais;
(iv) unrhyw dystysgrif a ddarparwyd i’r awdurdod o dan erthygl 11;
(v) unrhyw blaniau, dogfennau neu luniadau eraill sy’n ymwneud â’r cais nad oeddynt wedi eu hanfon at yr awdurdod;
(vi) yr hysbysiad o’r penderfyniad neu’r dyfarniad, os oes un;
(vii) os yw’r apêl yn ymwneud â chais am gymeradwyo materion penodol yn unol ag amod ar ganiatâd cynllunio, y cais am y caniatâd hwnnw, y planiau a gyflwynwyd ynghyd â’r cais hwnnw a’r caniatâd cynllunio a roddwyd.”
(4) Ar ôl erthygl 26(6) mewnosoder—“
(7) Yn yr erthygl hon—
 ystyr “apêl deiliad tŷ” (“householder appeal”) yw apêl o dan adran 78(1)(a) o Ddeddf 1990 mewn perthynas â chais deiliad tŷ ond nid yw’n cynnwys—
(a) apêl yn erbyn rhoi unrhyw ganiatâd cynllunio a roddir yn ddarostyngedig i amodau; neu
(b) apêl a gyflwynir ynghyd ag apêl o dan adran 174 o Ddeddf 1990 neu o dan adran 20 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990;
 ystyr “apêl fasnachol fach” (“minor commercial appeal”) yw apêl o dan adran 78(1)(a) o Ddeddf 1990 mewn perthynas â chais masnachol bach ond nid yw’n cynnwys—
(a) apêl yn erbyn rhoi unrhyw ganiatâd cynllunio a roddir yn ddarostyngedig i amodau; neu
(b) apêl a gyflwynir ynghyd ag apêl o dan adran 174 o Ddeddf 1990 neu o dan adran 20 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990.”
Diwygiadau yn ymwneud â swyddogaethau awdurdod cynllunio lleol pan wneir apêl
9 
Ar ôl erthygl 26 mewnosoder—“
Apêl a wnaed: Swyddogaethau awdurdod cynllunio lleol
26A. 
Y cyfnod ychwanegol a ragnodwyd at ddibenion adran 78A yw pedair wythnos.”
Diwygiadau yn ymwneud â’r gofrestr o geisiadau a gorchmynion datblygu lleol
10 
Yn erthygl 29(15)(a)—
(a) hepgorer y geiriau “(neu’r cyfnod priodol a ganiateir o dan erthygl 22 wedi dod i ben heb iddo roi penderfyniad)”;
(b) hepgorer y geiriau “o chwe mis”.
Diwygiadau i’r Atodlenni
11 

(1) Yn y Cydnabod Cais yn Atodlen 1, hepgorer y geiriau “Os byddwch yn apelio, rhaid ichi apelio o fewn y cyfnod o 6 mis” hyd at “(“y dyddiad perthnasol”)]………..”.
(2) Ar ôl Atodlen 1 mewnosoder Atodlen 1A a gynhwysir yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(3) Yn Atodlen 2—
(a) yn yr Hysbysiad o Dan Erthygl 10 o Gais am Ganiatâd Cynllunio cyn y diffiniad o “perchennog” mewnosoder—“Os bydd apêl yn cael ei gwneud yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod Cynllunio Lleol i wrthod rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad arfaethedig, a bod yr apêl wedyn yn digwydd drwy y weithdrefn ysgrifenedig hwylusach a ragnodir yn Rhan 1 o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Atgyfeiriadau ac Apelau) (Gweithdrefn Sylwadau Ysgrifenedig) (Cymru) 2015 (O.S……(Cy. )), bydd unrhyw sylwadau a wneir gan y perchennog neu’r tenant i’r Awdurdod Cynllunio Lleol ynglŷn â’r cais hwn yn cael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru ac ni fydd cyfle i wneud sylwadau pellach. Dylai unrhyw berchennog neu denant sy’n dymuno cyflwyno sylwadau wneud hynny erbyn y dyddiad ym mharagraff (dd) uchod.”
(b) yn yr Hysbysiad o Apêl o dan Erthyglau 10 a 25 cyn y diffiniad o “perchennog” mewnosoder—“Os ymdrinnir ag apêl gan y weithdrefn sylwadau ysgrifenedig hwylusach a ragnodir yn Rhan 1 o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Atgyfeiriadau ac Apelau) (Gweithdrefn Sylwadau Ysgrifenedig) (Cymru) 2015 (O.S.……(Cy. )), bydd unrhyw sylwadau a wneir gan y perchennog neu’r tenant i’r Awdurdod Cynllunio lleol ynglŷn â’r cais yn cael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru ac ni fydd cyfle i wneud sylwadau pellach mewn perthynas â’r apêl.”
Darpariaethau trosiannol ac arbed
12 

(1) Nid yw’r darpariaethau yn erthyglau 8 ac 11(3)(b) o’r Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw apêl o dan adran 78 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 sy’n ymwneud â chais a wnaed cyn y daw’r Gorchymyn hwn i rym.
(2) Nid yw’r ddarpariaeth yn erthyglau 3, 5, 10 ac 11(1), (2) a (3)(a) o’r Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas â chais am ganiatâd cynllunio a wnaed cyn y daw’r Gorchymyn hwn i rym.
(3) Mae Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012, ar y ffurf yr oedd yn bodoli yn union cyn y daw’r Gorchymyn hwn i rym, yn parhau’n gymwys i unrhyw gais am ganiatâd cynllunio a wnaed cyn i’r Gorchymyn hwn ddod i rym ac i unrhyw apêl a wneir o dan adran 78 sy’n ymwneud â chais o’r fath.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru
20 Mai 2015
YR ATODLEN
Erthygl 3
“
ATODLEN 1A
Defnydd Datblygiad Masnachol Bach
Erthygl 2(1)
Siopau
1. 
Defnydd ar gyfer pob un o’r dibenion canlynol neu unrhyw un neu ragor ohonynt—
(a) ar gyfer manwerthu nwyddau ac eithrio bwyd poeth,
(b) fel swyddfa bost,
(c) ar gyfer gwerthu tocynnau neu fel asiantaeth deithio,
(ch) ar gyfer gwerthu brechdanau neu fwyd oer arall i’w fwyta i ffwrdd o’r fangre,
(d) ar gyfer trin gwallt,
(dd) ar gyfer trefnu angladdau,
(e) ar gyfer arddangos nwyddau sydd ar werth,
(f) ar gyfer hurio nwyddau neu eitemau domestig neu bersonol,
(ff) ar gyfer golchi neu lanhau dillad neu ffabrigau yn y fangre,
(g) ar gyfer derbyn nwyddau i’w golchi, eu glanhau neu eu hatgyweirio,pan fo’r gwerthu, yr arddangos neu’r gwasanaeth i aelodau o’r cyhoedd sy’n ymweld.
Gwasanaethau ariannol a phroffesiynol
2. 
Defnydd ar gyfer darparu—
(a) gwasanaethau ariannol,
(b) gwasanaethau proffesiynol (ac eithrio gwasanaethau iechyd neu feddygol), neu
(c) unrhyw wasanaethau eraill (gan gynnwys defnydd fel swyddfa fetio) y mae’n briodol eu darparu mewn ardal siopa,pan ddarperir y gwasanaethau yn bennaf i aelodau o’r cyhoedd sy’n ymweld.
Bwyd a diod
3. 
Defnydd ar gyfer gwerthu bwyd neu ddiod ar gyfer ei fwyta neu ei yfed yn y fangre neu fwyd poeth ar gyfer ei fwyta i ffwrdd o’r fangre.”