
2015 Rhif 1320 (Cy. 118)
Tai, Cymru
Rheoliadau Tai (Hawl i Brynu) (Ffurflenni Rhagnodedig) (Cymru) 2015
Gwnaed 20 Ionawr 2015
Yn dod i rym 22 Ionawr 2015
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 176(1) a (5) o Ddeddf Tai 1985 fel y’u hymestynnwyd gan adran 26(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy.
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tai (Hawl i Brynu) (Ffurflenni Rhagnodedig) (Cymru) 2015 a deuant i rym ar 22 Ionawr 2015.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Tai 1985.
Hysbysiad yn hawlio arfer yr hawl i brynu
2 
Hysbysiad o dan adran 122(1) o’r Ddeddf yw un sydd ar y ffurf a nodir yn Atodlen 1, neu ar ffurf y mae ei heffaith yn sylweddol debyg iddi.
Hysbysiad mewn ymateb i hawliad hawl i brynu gan denant
3 
Hysbysiad o dan adran 124(1) o’r Ddeddf yw un sydd ar y ffurf a nodir yn Atodlen 2, neu ar ffurf y mae ei heffaith yn sylweddol debyg iddi.
Hysbysiad cychwynnol am oedi
4 
Hysbysiad o dan adran 153A(1) o’r Ddeddf yw un sydd ar y ffurf a nodir yn Atodlen 3, neu ar ffurf y mae ei heffaith yn sylweddol debyg iddi.
Hysbysiad cychwynnol am oedi - gwrth-hysbysiad landlord
5 
Hysbysiad o dan adran 153A(3)(b) o’r Ddeddf yw un sydd ar y ffurf a nodir yn Atodlen 4, neu ar ffurf y mae ei heffaith yn sylweddol debyg iddi.
Hysbysiad gweithredol am oedi
6 
Hysbysiad o dan adran 153A(5) o’r Ddeddf yw un sydd ar y ffurf a nodir yn Atodlen 5, neu ar ffurf y mae ei heffaith yn sylweddol debyg iddi.
Manylion rhagnodedig i’w cynnwys yn yr hysbysiadau
7 
Y manylion sydd i’w cynnwys mewn hysbysiad a ragnodir gan reoliadau 2 i 6 yw’r rhai hynny sy’n ofynnol gan y ffurflen honno.
Dirymiadau, arbedion a darpariaethau trosiannol
8 

(1) Dirymir o ran Cymru y Rheoliadau a bennir yn Atodlen 6.
(2) Nid oes unrhyw beth yn y Rheoliadau hyn yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw hysbysiad a roddwyd cyn 22 Ionawr 2015 os rhoddwyd yr hysbysiad ar ffurf a ragnodir gan unrhyw un o’r Rheoliadau a bennir yn Atodlen 6, neu ar ffurf y mae ei heffaith yn sylweddol debyg iddi.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Tai ac Adfywio, un o Weinidogion Cymru
20 Ionawr 2015
YR ATODLENNI
ATODLEN 1
FFURFLEN WRTB1
HYSBYSIAD YN HAWLIO ARFER YR HAWL I BRYNU
Rheoliad 2

ATODLEN 2
FFURFLEN WRTB2
HYSBYSIAD MEWN YMATEB I HAWLIAD HAWL I BRYNU GAN DENANT
Rheoliad 3

ATODLEN 3
FFURFLEN WRTB3
HYSBYSIAD CYCHWYNNOL AM OEDI
Rheoliad 4

ATODLEN 4
FFURFLEN WRTB4
HYSBYSIAD CYCHWYNNOL AM OEDI - GWRTH-HYSBYSIAD LANDLORD
Rheoliad 5

ATODLEN 5
FFURFLEN WRTB5
HYSBYSIAD GWEITHREDOL AM OEDI
Rheoliad 6

ATODLEN 6
DIRYMIADAU
Rheoliad 8


 Rheoliadau Tai (Hawl i Brynu) (Ffurflenni Rhagnodedig) 1986
 Rheoliadau Tai (Hawl i Brynu) (Ffurflenni Rhagnodedig) (Diwygio) 1989
 Rheoliadau Tai (Gweithdrefn Oedi yr Hawl i Brynu) (Ffurflenni Rhagnodedig) 1989
 Rheoliadau Tai (Hawl i Brynu) (Ffurflenni Rhagnodedig) (Diwygio) 1992
 Rheoliadau Tai (Gweithdrefn Oedi yr Hawl i Brynu) (Ffurflenni Rhagnodedig) (Diwygio) 1993
 Rheoliadau Tai (Hawl i Brynu) (Ffurflenni Rhagnodedig) (Diwygio) 1993
 Rheoliadau Tai (Gweithdrefn Oedi yr Hawl i Brynu) (Ffurflenni Rhagnodedig) (Ffurflenni Cymraeg) 1994
 Rheoliadau Tai (Hawl i Brynu) (Ffurflenni Rhagnodedig) (Ffurflenni Cymraeg) 1994
 Rheoliadau Tai (Hawl i Brynu) (Ffurflenni Rhagnodedig) (Diwygio) 1996
