
2015 Rhif 1268 (Cy. 87)
Tai, Cymru
Gorchymyn Digartrefedd (Addasrwydd Llety) (Cymru) 2015
Gwnaed 21 Ebrill 2015
Yn dod i rym 27 Ebrill 2015

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 59(3) a 142(2) o Ddeddf Tai (Cymru) 2014.

Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo yn unol ag adran 142(3)(b)(i) o’r Ddeddf honno.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Digartrefedd (Addasrwydd Llety) (Cymru) 2015.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 27 Ebrill 2015.
Dehongli
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 mae i “aelod o aelwyd y person” (“member of a person’s household”) yr un ystyr ag yn adran 57(2), ac mae “aelwyd” (“household”) i’w ddehongli yn unol â hynny;
 ystyr “awdurdod” (“authority”) yw’r awdurdod tai lleol perthnasol y mae dyletswydd arno i berson digartref o dan adrannau 68, 75 neu 82;
 ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Tai (Cymru) 2014; ac mae unrhyw gyfeiriad at adran â rhif yn gyfeiriad at adran o’r Ddeddf honno;
 ystyr “llety a rennir” (“shared accommodation”) yw llety—
(a) nad yw’n fangre ar wahân na hunangynhaliol; neu
(b) pan na fo unrhyw un neu ragor o’r cyfleusterau a ganlyn ar gael i’r ceisydd neu eu bod yn cael eu rhannu gan fwy nag un aelwyd—
(i) toiled;
(ii) cyfleusterau golchi personol;
(iii) cyfleusterau coginio; neu
(c) nad yw’n sefydliad sydd wedi ei gofrestru o dan ddarpariaethau Deddf Safonau Gofal 2000;ystyr “llety Gwely a Brecwast” (“B&B accommodation”) yw llety a ddarperir yn fasnachol (pa un a yw brecwast wedi ei gynnwys ai peidio)—
(a) nad yw’n fangre ar wahân na hunangynhaliol;
(b) pan na fo unrhyw un neu ragor o’r cyfleusterau a ganlyn ar gael i’r ceisydd neu eu bod yn cael eu rhannu gan fwy nag un aelwyd—
(i) toiled;
(ii) cyfleusterau golchi personol;
(iii) cyfleusterau coginio;
(c) nad yw’n llety sydd ym mherchnogaeth neu’n cael ei reoli gan awdurdod tai lleol, landlord cymdeithasol cofrestredig neu sefydliad gwirfoddol; neu
(d) nad yw’n sefydliad sydd wedi ei gofrestru o dan ddarpariaethau Deddf Safonau Gofal 2000;ac mae “Gwely a Brecwast” (“B&B”) i’w ddehongli yn unol â hynny;
 ystyr “llety Gwely a Brecwast bach” (“small B&B”) yw—
 llety Gwely a Brecwast—
(i) pan fo’r rheolwr yn byw yn y fangre; a
(ii) sydd â llai na 7 ystafell wely ar gael i’w gosod;
 ystyr “llety o safon sylfaenol” (“basic standard accommodation”) yw llety—
(a) sy’n cydymffurfio â’r holl ofynion statudol (megis, pan fo’n gymwys, gofynion yn ymwneud â thân, nwy, trydan, a diogelwch arall; cynllunio; a thrwyddedau ar gyfer tai amlfeddiannaeth); a
(b) sydd â rheolwr a ystyrir gan yr awdurdod i fod yn berson addas a phriodol sydd â’r gallu i reoli llety Gwely a Brecwast;
 ac mae “safon sylfaenol” (“basic standard”) i’w ddehongli yn unol â hynny;
 ystyr “llety o safon uwch” (“higher standard accommodation”) yw llety sy’n bodloni—
(a) y safon sylfaenol; a
(b) y safonau sydd wedi eu cynnwys yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn,
 ac mae “safon uwch” (“higher standard”) i’w ddehongli yn unol â hynny.
RHAN 1 Materion i’w hystyried wrth benderfynu a yw llety yn addas ar gyfer personau sydd mewn angen blaenoriaethol neu y gallent fod mewn angen o’r fath
3 
Wrth benderfynu at ddibenion Rhan 2 o Ddeddf 2014 a yw llety yn addas ar gyfer person sydd mewn angen blaenoriaethol neu y gall fod mewn angen o’r fath, rhaid ystyried, pan fo’n briodol, y materion a ganlyn yn ymwneud â pherson sydd naill ai yn geisydd, neu sy’n aelod o aelwyd y ceisydd—
(a) anghenion iechyd penodol y person;
(b) agosrwydd a hygyrchedd cymorth teuluol;
(c) unrhyw anabledd sydd gan y person;
(d) agosrwydd a hygyrchedd cyfleusterau meddygol, a gwasanaethau cymorth eraill—
(i) sydd ar hyn o bryd yn cael eu defnyddio gan y person neu’n cael eu darparu iddo; a
(ii) sy’n hanfodol er llesiant y person;
(e) pan fo’r llety wedi ei leoli y tu allan i ardal yr awdurdod, pellter y llety o ardal yr awdurdod;
(f) arwyddocâd unrhyw darfu a fyddai’n cael ei achosi gan leoliad y llety o ran cyflogaeth, cyfrifoldebau gofalu neu addysg y person; ac
(g) agosrwydd cyflawnwyr honedig a dioddefwyr cam-drin domestig.
RHAN 2 Amgylchiadau pan na fo llety Gwely a Brecwast a llety a rennir i’w hystyried yn addas ar gyfer personau sydd mewn angen blaenoriaethol, neu y gallent fod mewn angen o’r fath
Llety Gwely a Brecwast yn anaddas oni bai bod eithriad yn gymwys
4 
At ddibenion Rhan 2 o Ddeddf 2014, nid yw llety Gwely a Brecwast i’w ystyried yn addas ar gyfer person sydd mewn angen blaenoriaethol, neu y gall fod mewn angen o’r fath oni bai bod o leiaf un o’r eithriadau yn erthygl 6 neu erthygl 7(1) yn gymwys.
Llety a rennir yn anaddas oni bai ei fod yn bodloni’r safon uwch neu fod eithriad yn gymwys
5 
At ddibenion Rhan 2 o Ddeddf 2014 ac yn ddarostyngedig i’r eithriadau sydd wedi eu cynnwys yn erthyglau 6 a 7(2), nid yw llety a rennir i’w ystyried yn addas ar gyfer person sydd mewn angen blaenoriaethol, neu y gall fod mewn angen o’r fath oni bai ei fod yn bodloni’r safon uwch.
Eithriadau i erthyglau 4 a 5 ar gyfer pob math o lety
6 
Nid yw erthyglau 4 a 5 yn gymwys—
(a) pan fo’r awdurdod yn credu y gallai’r ceisydd fod yn ddigartref neu o dan fygythiad o ddigartrefedd o ganlyniad i argyfwng megis tân, llifogydd neu drychineb arall, ac nad oes unrhyw lety arall ar gael yn rhesymol i’r awdurdod; neu
(b) pan fo’r awdurdod wedi cynnig llety addas i’r ceisydd, ond bod y ceisydd yn dymuno cael ei letya mewn llety arall.
Eithriadau i erthyglau 4 a 5 pan fo llety yn bodloni safon
7 

(1) Nid yw erthygl 4 yn gymwys—
(a) pan fo’r person yn meddiannu llety Gwely a Brecwast o safon sylfaenol am gyfnod, neu am gyfanswm o gyfnodau, nad yw’n fwy na 2 wythnos;
(b) pan fo’r person yn meddiannu llety Gwely a Brecwast o safon uwch am gyfnod, neu am gyfanswm o gyfnodau, nad yw’n fwy na 6 wythnos;
(c) pan fo’r person yn meddiannu llety Gwely a Brecwast bach o safon sylfaenol am gyfnod, neu am gyfanswm o gyfnodau, nad yw’n fwy na 6 wythnos, a bod yr awdurdod, cyn diwedd y cyfnod o ddwy wythnos y cyfeirir ato yn is-baragraff (a), wedi cynnig llety addas arall, ond bod y person wedi dewis aros yn y llety Gwely a Brecwast hwnnw;
(d) pan fo’r person yn meddiannu llety Gwely a Brecwast bach o safon sylfaenol ar ôl arfer y dewis y cyfeirir ato yn is-baragraff (c), a bod yr awdurdod wedi cynnig llety addas arall cyn diwedd y cyfnod o chwe wythnos y cyfeirir ato yn is-baragraff (c), ond bod y person wedi dewis aros yn y llety Gwely a Brecwast hwnnw;
(e) pan fo’r person yn meddiannu llety Gwely a Brecwast bach o safon uwch, a bod yr awdurdod wedi cynnig llety addas arall, cyn i’r cyfnod o chwe wythnos y cyfeirir ato yn is-baragraff (b) ddod i ben, ond bod y person wedi dewis aros yn y llety Gwely a Brecwast hwnnw.
(2) Nid yw erthygl 5 yn gymwys—
(a) pan fo’r person yn meddiannu llety a rennir o safon sylfaenol am gyfnod, neu am gyfanswm o gyfnodau, nad yw’n fwy na 2 wythnos;
(b) pan fo’r person yn meddiannu, am gyfnod, neu am gyfanswm o gyfnodau, nad yw’n fwy na 6 wythnos, lety a rennir o safon sylfaenol sydd ym mherchnogaeth neu a reolir gan awdurdod tai lleol neu landlord cymdeithasol cofrestredig, a bod yr awdurdod wedi cynnig llety addas arall cyn i’r cyfnod o ddwy wythnos y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) ddod i ben, ond bod y person wedi dewis aros yn y llety hwnnw; neu
(c) 
(i) pan fo’r person yn meddiannu llety a rennir o safon sylfaenol a ddefnyddir yn llwyr neu’n bennaf i ddarparu llety dros dro i bersonau sydd wedi gadael eu cartrefi o ganlyniad i gam-drin domestig, ac sy’n cael ei reoli gan sefydliad—(aa) nad yw’n awdurdod tai lleol; a(bb) nad yw’n masnachu i wneud elw; a
(ii) pan fo’r awdurdod wedi cynnig llety addas arall cyn diwedd y cyfnod o chwe wythnos y cyfeirir ato yn is-baragraff (b), ond bod y person wedi dewis aros yn y llety hwnnw.
(3) Os yw’r llety addas arall a gynigir at ddibenion paragraffau (1) neu (2) yn cael ei rannu, rhaid iddo fodloni’r safon uwch.
(4) Yn achos aelwydydd sydd â phlant dibynnol neu fenyw feichiog, rhaid i’r cynnig a wneir o dan baragraff (1)(d) neu (e), neu baragraff (2)(c) fod yn llety hunangynhaliol addas. Yn achos ceisydd sy’n berson ifanc dan oed, rhaid i’r cynnig fod yn llety addas â chymorth.
(5) Wrth gyfrifo cyfnod, neu gyfanswm cyfnod, y mae person wedi meddiannu llety a rennir at ddibenion paragraffau (1) neu (2), rhaid diystyru unrhyw gyfnod cyn y daeth awdurdod yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd o dan adran 73 yn rhinwedd adrannau 82(4) neu 83(2) (atgyfeiriadau yn sgil cysylltiadau lleol).
RHAN 3 Addasrwydd llety’r sector rhentu preifat ar gyfer dod â’r ddyletswydd adran 75 i ben i geiswyr digartref
8 
At ddibenion cynnig yn y sector rhentu preifat o dan adran 76 (amgylchiadau pan fo’r ddyletswydd i sicrhau llety ar gyfer ceiswyr sydd mewn angen blaenoriaethol yn dod i ben), ni chaniateir i lety gael ei ystyried yn addas pan fo un neu ragor o’r canlynol yn gymwys—
(a) bod yr awdurdod o’r farn nad yw’r llety mewn cyflwr ffisegol rhesymol;
(b) bod yr awdurdod o’r farn nad yw’r llety yn cydymffurfio â phob gofyniad statudol (megis, pan fo’n gymwys, gofynion sy’n ymwneud â thân, nwy, trydan, carbon monocsid a diogelwch arall; cynllunio; a thrwyddedau ar gyfer tai amlfeddiannaeth); neu
(c) bod yr awdurdod o’r farn nad yw’r landlord yn berson addas a phriodol o fewn ystyr adran 20 i weithredu fel landlord.
Dirymu a darpariaethau trosiannol ac arbed
9 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae’r Gorchmynion a ganlyn drwy hyn wedi eu dirymu—
(a) Gorchymyn Digartrefedd (Addasrwydd Llety) 1996 i’r graddau y mae’n gymwys i Gymru;
(b) Gorchymyn Digartrefedd (Addasrwydd Llety) (Diwygio) 1997 i’r graddau y mae’n gymwys i Gymru; ac
(c) Gorchymyn Digartrefedd (Addasrwydd Llety) (Cymru) 2006.
(2) Mae’r Gorchmynion a ddirymir o dan baragraff (1) yn parhau mewn grym mewn cysylltiad ag unrhyw gais a wnaed o dan adran 183 o Ddeddf Tai 1996 cyn y dyddiad y daw’r Gorchymyn hwn i rym.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, un o Weinidogion Cymru
21 Ebrill 2015
YR ATODLEN
Y Safon Uwch
Erthygl 2
Safonau Gofod
Safonau gofod ar gyfer llety cysgu

Meintiau ystafelloedd pan fo cyfleusterau coginio yn cael eu darparu mewn ystafell/cegin ar wahân
Arwynebedd Llawr Ystafell Nifer Fwyaf o Bersonau
Heb fod yn llai na 6.5 metr sgwâr 1 person
Heb fod yn llai na 10.2 metr sgwâr 2 berson
Heb fod yn llai na 14.9 metr sgwâr 3 pherson
Heb fod yn llai na 19.6 metr sgwâr 4 person

Meintiau ystafelloedd pan fo cyfleusterau coginio yn cael eu darparu o fewn yr ystafell
Arwynebedd Llawr Ystafell Nifer Fwyaf o Bersonau
Heb fod yn llai na 10.2 metr sgwâr 1 person
Heb fod yn llai na 13.9 metr sgwâr 2 berson
Heb fod yn llai na 18.6 metr sgwâr 3 pherson
Heb fod yn llai na 23.2 metr sgwâr 4 person
At ddibenion y cyfrifiadau o faint yr ystafell uchod, mae plentyn o dan 10 oed i’w drin fel hanner person.
(a) Dim mwy na 4 person i feddiannu un ystafell, ac eithrio pan fo’r meddianwyr yn cydsynio.
(b) Dim rhannu ystafelloedd ar gyfer y rheini o ryw gwahanol i’w gilydd, sy’n 10 oed neu’n hŷn, oni bai eu bod yn byw gyda’i gilydd fel partneriaid a bod y ddau dros yr oed cydsynio, neu pan fo rhiant neu warcheidwad yn dewis rhannu gyda phlentyn hŷn.
(c) Rhaid i uchder llawr i nenfwd pob ystafell fod o leiaf 2.1 metr dros nid llai na 75% o arwynebedd yr ystafell. Rhaid diystyru unrhyw ran o’r ystafell pan fo uchder y nenfwd yn llai na 1.5 metr wrth gyfrifo arwynebedd y llawr.
(d) Mae ceginau ac ystafelloedd ymolchi ar wahân yn anaddas ar gyfer llety cysgu.
Gosodiadau ar gyfer gwresogi
2 
Rhaid bod gan y llety ddarpariaeth ddigonol ar gyfer gwresogi. Rhaid i bob ystafell gyfanheddol ac ystafell ymolchi neu ystafell gawod fod yn gallu cynnal a chadw isafswm tymheredd o 18°C yn yr ystafell pan fo’r tymheredd y tu allan yn minws 1°C.
Cyfleusterau ar gyfer storio, paratoi a choginio bwyd mewn uned lety
3 

(1) Mewn uned lety sy’n lletya mwy nag un person, rhaid i’r ardal paratoi bwyd a ddarperir yn yr uned gynnwys y cyfleusterau a ganlyn:
(a) pedwar llosgwr/hob, ffwrn gonfensiynol a gril, neu ddau losgwr/hob a microdon sy’n cynnwys ffwrn a gril;
(b) sinc a bwrdd diferu integredig, sydd â chyflenwad cyson o ddŵr poeth a dŵr yfed oer;
(c) cwpwrdd storio sydd â chapasiti o 0.2 o fetrau ciwbig o leiaf ac eithrio man storio o dan y sinc;
(d) oergell;
(e) isafswm o bedwar soced 13 amp (sengl neu ddwbl) wedi eu lleoli dros yr wyneb gweithio;
(f) wyneb gweithio ar gyfer paratoi bwyd sy’n mesur o leiaf 1 metr x 0.6 metr; ac
(g) isafswm o 1 metr o ardal cylchdroi rhwng cyfleusterau a chelfi/dodrefn eraill yn yr ystafell.
(2) Mewn uned lety sy’n lletya un person, rhaid i’r ardal paratoi bwyd a ddarperir yn yr uned lety gynnwys y cyfleusterau a ganlyn:fel (a) – (g) uchod ond (a) i gael isafswm o ddau losgwr/hob.
Storio, paratoi a choginio bwyd mewn cyfleuster a rennir
4 

(1) Pan fo ardaloedd paratoi bwyd yn cael eu rhannu rhwng mwy nag un aelwyd, rhaid bod un set o gyfleusterau cegin ar gyfer:
(a) pob 3 aelwyd deuluol neu lai;
(b) pob 5 aelwyd un person neu lai (ar gyfer rhwng 6 a 9 aelwyd un person, mae ffwrn neu ficrodon ychwanegol yn ofynnol);
(c) pob 10 person neu lai pan fo cymysgedd o aelwydydd teuluol ac aelwydydd un person o fewn yr un fangre.
(2) Rhaid i bob set o gyfleusterau a rennir ddarparu’r cyfleusterau a ganlyn:
(a) fel ar gyfer paragraff 3(1)(a) i (g) ac eithrio bod rhaid i gyfleusterau coginio gynnwys 4 llosgwr neu hob, a ffwrn gonfensiynol, gril a microdon;
(b) tegell trydan; ac
(c) tostiwr.
(3) Caniateir i’r ardal paratoi bwyd a ddefnyddir gan y rheolwr gael ei chynnwys wrth gyfrifo’r gymhareb, ar yr amod ei bod yn bodloni’r meini prawf ar gyfer storio, paratoi a choginio bwyd mewn cyfleuster a rennir.
(4) Pan nad oes gan breswylwyr fynediad i gyfleusterau cegin a bod y rheolwr yn darparu brecwast a phryd bwyd gyda’r nos o leiaf ar gyfer preswylwyr, ystyrir bod y gofynion ar gyfer cyfleusterau cegin a rennir wedi eu bodloni.
(5) Rhaid i gyfleusterau ychwanegol i’w darparu ym mhob ystafell wely neu o fewn yr holl lety a feddiennir yn gyfan gwbl gan bob aelwyd gynnwys;
(a) oergell; ac
(b) cyfleuster storio cloadwy.
Fel arall, caniateir darparu’r rhain mewn mannau eraill yn yr adeilad.
Cyfleusterau toiled ac ymolchi
5 

(1) Rhaid i gyfleusterau i’w defnyddio yn gyfan gwbl gan y person neu’r aelwyd gynnwys:
(a) bath neu gawod;
(b) basn golchi dwylo â chyflenwad cyson o ddŵr poeth ac oer; ac
(c) toiled naill ai en-suite neu mewn ystafell ar wahân a gedwir at ddefnydd person neu aelwyd yn gyfan gwbl.
(2) Rhaid i gyfleusterau a rennir gynnwys:
(a) un toiled a basn golchi dwylo â chyflenwad cyson o ddŵr poeth ac oer o fewn yr adeilad ar gyfer pob pum aelwyd neu lai. Rhaid iddo gael ei leoli heb fod yn fwy nag un llawr i ffwrdd o’r defnyddwyr bwriadedig. Ar gyfer y pum aelwyd gyntaf caniateir i’r toiled a’r basn golchi dwylo fod yn yr ystafell gawod neu’r ystafell ymolchi. Rhaid i bob toiled a basn golchi dwylo ychwanegol ar gyfer meddianaethau o chwe aelwyd neu fwy fod mewn compartment ar wahân;
(b) un ystafell ymolchi neu ystafell gawod i’w darparu ar gyfer pob pum person. Rhaid i hon gael ei lleoli heb fod yn fwy nag un llawr i ffwrdd o’r defnyddwyr bwriadedig; ac
(c) mewn mangre sy’n lletya plant o dan 10 oed, rhaid i o leiaf hanner y cyfleusterau ymolchi gynnwys baddonau sy’n addas ar gyfer plant.
(3) Ni chaniateir i nifer y personau sy’n meddiannu uned lety sydd â chyfleuster toiled a ddarperir at eu defnydd hwy yn gyfan gwbl gael ei gynnwys wrth gyfrifo toiledau a rennir.
Diogelwch
6 
Rhaid i bob drws mynediad i bob uned lety fod yn gloadwy a rhaid bod modd ei ddatgloi o’r tu mewn heb ddefnyddio allwedd.
Ystafell neu Ystafelloedd Cyffredin
7 
Rhaid bod gan bob mangre ystafell gyffredin sy’n mesur o leiaf 12 metr sgwâr oni bai bod gan bob aelwyd ardal fyw ar wahân i’w hardal gysgu sydd ar gael at ddefnydd yr aelwyd honno yn gyfan gwbl, neu fod y fangre ar gyfer aelwydydd un person yn unig.
Safonau Rheoli
8 

(1) Rhaid dyroddi copi ysgrifenedig o ‘reolau’r tŷ’ i bob aelwyd sy’n cynnwys manylion am sut bydd y sancsiynau am dorri’r rheolau yn cael eu cymhwyso. Rhaid i reolau’r tŷ gael eu cymeradwyo gan yr awdurdod sy’n gosod aelwydydd digartref yn y fangre.
(2) Rhaid dyroddi i bob aelwyd wybodaeth ysgrifenedig mewn perthynas â’r fangre gan gynnwys sut i weithredu’r holl osodiadau, er enghraifft cyfarpar gwresogi a dŵr poeth ac offer diffodd tân.
(3) Rhaid i wybodaeth ysgrifenedig fod ar gael i breswylwyr mewn perthynas â’r ardal leol gan gynnwys lleoliad neu fanylion cyswllt cyfleusterau, golchdai, meddygfeydd ac ysgolion lleol.
(4) Rhaid i breswylwyr gael mynediad i’w hystafelloedd bob amser ac eithrio pan fo ystafelloedd yn cael eu glanhau neu eu cynnal a’u cadw mewn ffordd arall. Rhaid gwneud darpariaeth i letya preswylwyr yn ystod yr amserau hyn.
(5) Rhaid caniatáu mynediad i swyddogion priodol yr awdurdod tai lleol y mae’r fangre wedi ei lleoli yn ei ardal, a swyddogion unrhyw awdurdod sy’n gosod aelwydydd digartref yn y fangre, i arolygu’r fangre ym mha ffordd bynnag ac ar ba adeg bynnag sy’n angenrheidiol, i sicrhau y cydymffurfir â’r safonau perthnasol; ac y bydd y rheolwr yn caniatáu cynnal arolygiadau o’r fath, heb rybudd os yw’n angenrheidiol.
(6) Rhaid caniatáu mynediad i swyddogion yr awdurdod lleol a’r gweithwyr iechyd a chymunedol awdurdodedig ar gyfer yr ardal y mae’r llety wedi ei leoli ynddi, i ymweld â aelwydydd digartref sy’n meddiannu’r llety a’u cyfweld yn breifat yn yr ystafell neu’r ystafelloedd a feddiennir ganddynt.
(7) Gellir cysylltu bob amser â rheolwr sydd â chyfrifoldeb beunyddiol digonol i sicrhau bod yr eiddo yn cael ei reoli’n dda. Rhaid i hysbysiad sy’n rhoi enw, cyfeiriad a rhif ffôn y rheolwr gael ei arddangos mewn man yn yr eiddo lle y gellir ei weld yn hawdd.
(8) Rhaid bod cynllun ymadael mewn argyfwng clir yn ei le sy’n nodi’r camau gweithredu sy’n ofynnol i’w cymryd wrth glywed y larwm tân, y llwybrau dianc a’r mannau ymgynnull diogel. Rhaid i reolwr sicrhau bod pob person sydd newydd gyrraedd y fangre yn cael gwybod am yr hyn i’w wneud os digwydd tân ac am y rhagofalon tân a ddarperir.
(9) Rhaid dyroddi i bob aelwyd weithdrefn gwyno sy’n pennu sut mae gwneud cwyn. Rhaid i’r wybodaeth hon hefyd gynnwys ym mhle y gall yr achwynydd gael cyngor a chymorth pellach.