
2015 Rhif 1227 (Cy. 81)
Addysg, Cymru
Gorchymyn Ysgol Uwchradd y Dwyrain (Newid Amserau Sesiynau Ysgolion) 2015
Gwnaed 20 Ebrill 2015
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 24 Ebrill 2015
Yn dod i rym 1 Mehefin 2015

Yn unol ag adran 4(2) o Ddeddf Addysg 2002 (“y Ddeddf”), mae corff llywodraethu Ysgol Uwchradd y Dwyrain (“y corff llywodraethu”) wedi ymgynghori â’r awdurdod lleol a’r personau hynny y mae’n ymddangos iddynt eu bod yn briodol, gan gynnwys rhieni disgyblion sydd wedi eu cofrestru yn yr ysgol a’r staff sy’n gweithio yn yr ysgol;
Mae Gweinidogion Cymru o’r farn, ar ôl rhoi sylw i’r materion a nodir yn adran 1(2) o’r Ddeddf, y gall gweithredu gan y corff llywodraethu ddarpariaethau’r Gorchymyn hwn gyfrannu at godi’r safonau addysgol a gyrhaeddir gan blant yng Nghymru;

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 2(1) o’r Ddeddf, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, ar gais y corff llywodraethu, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ysgol Uwchradd y Dwyrain (Newid Amserau Sesiynau Ysgolion) 2015 a daw i rym ar 1 Mehefin 2015.
Esemptiad o’r Rheoliadau Sesiynau Ysgolion
2 
Nid yw rheoliad 4(2), (3) a (4) o Reoliadau Newid Amserau Sesiynau Ysgolion (Cymru) 2009 yn gymwys i gorff llywodraethu Ysgol Uwchradd y Dwyrain ar Heol Casnewydd, Caerdydd CF3 3XG.
Y cyfnod amser
3 
Bydd y Gorchymyn hwn yn cael effaith tan 31 Awst 2015.
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
20 Ebrill 2015