
2015 No. 1217 (Cy. 80) (C. 72)
Y Gymraeg, Cymru
Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 9) 2015
Gwnaed 20 Ebrill 2015
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddwyd iddynt gan adran 156(2) o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 9) 2015.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “Mesur” yw Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.
Cychwyn
2 
Daw Rhan 7 o’r Mesur (Tribiwnlys y Gymraeg) i rym ar 30 Ebrill 2015 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym.
Carwyn Jones
Prif Weinidog Cymru
20 Ebrill 2015