
2015 Rhif 1182 (Cy. 79) (C. 71)
Llywodraeth Leol, Cymru
Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (Cychwyn Rhif 2) 2015
Gwnaed 16 Ebrill 2015
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddwyd gan adran 75(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi
1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (Cychwyn Rhif 2) 2015.
Y diwrnod penodedig
2 
Y diwrnod penodedig ar gyfer dwyn yr adrannau a ganlyn o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 i rym yw 1 Mai 2015—
(a) adran 55 (gwefannau cynghorau cymuned);
(b) adran 56 (gofyniad i roi hysbysiadau cyhoeddus yn electronig);
(c) adran 57 (cyfarfodydd a thrafodion cymunedau);
(d) adran 58 (cofrestrau buddiannau aelodau);
(e) adran 68 (cyd-bwyllgorau safonau); ac
(f) adran 69 (atgyfeirio achosion yn ymwneud ag ymddygiad).
Leighton Andrews
Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, un o Weinidogion Cymru
16 Ebrill 2015