
2015 Rhif 1180 (Cy. 78)
Bywyd Gwyllt, Cymru
Gorchymyn Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (Amrywio Atodlen 9) (Cymru) 2015
Gwnaed 16 Ebrill 2015
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol
Cymru 20 Ebrill 2015
Yn dod i rym 11 Mai 2015

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 22(5)(a) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Yn unol â gofynion adran 26(4) o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru—
(a) wedi rhoi cyfle i unrhyw awdurdod lleol yr effeithir arno ac unrhyw berson arall yr effeithir arno gyflwyno gwrthwynebiadau neu sylwadau mewn cysylltiad â phwnc y Gorchymyn hwn; a
(b) wedi ymgynghori â’r Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur, sef y corff cynghori gorau ym marn Gweinidogion Cymru i’w cynghori ynghylch a ddylid gwneud y Gorchymyn hwn ai peidio.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (Amrywio Atodlen 9) (Cymru) 2015.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 11 Mai 2015.
Amrywio Atodlen 9
2 
Yn Rhan 1B o Atodlen 9 i Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (anifeiliaid nad ydynt fel arfer yn bresennol mwyach), yn yr eitem sy’n ymwneud â “Beaver, Eurasian” hepgorer “(but not in relation to Wales)”.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru
16 Ebrill 2015