
2015 Rhif 1026 (Cy. 75)
Tai, Cymru
Gorchymyn Rheoleiddio Tai Rhent Preifat (Dynodi Awdurdod Trwyddedu) (Cymru) 2015
Gwnaed 25 Mawrth 2015
Yn dod i rym 1 Ebrill 2015

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 3(1)(a) o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (“y Ddeddf”).
Yn unol ag adran 3(4) o’r Ddeddf, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â Chyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd a’r cyfryw bersonau eraill yr oeddent yn eu hystyried yn briodol cyn gwneud y Gorchymyn hwn.

Yn unol ag adran 142(3)(a) o’r Ddeddf, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a chymeradwywyd ef ganddo drwy benderfyniad.
Enwi a chychwyn
1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Rheoleiddio Tai Rhent Preifat (Dynodi Awdurdod Trwyddedu) (Cymru) 2015 a daw i rym ar 1 Ebrill 2015.
Dynodi Awdurdod Trwyddedu
2 
Yn unol ag adran 3(1)(a) o Ddeddf Tai (Cymru) 2014, ac at ddibenion Rhan 1 o’r Ddeddf honno, dynodir Cyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd yn awdurdod trwyddedu ar gyfer Cymru gyfan.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, un o Weinidogion Cymru.
25 Mawrth 2015