
2015 No. 1025 (Cy. 74) (C. 70)
Llywodraeth Leol, Cymru
Gorchymyn Deddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012 (Cychwyn Rhif 2, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 2015
Gwnaed 25 Mawrth 2015
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 22(2) a (3) o Ddeddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012.
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012 (Cychwyn Rhif 2, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 2015.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
(a) ystyr “Deddf 2012” (“the 2012 Act”) yw Deddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012; a
(b) ystyr “Deddf 1972” (“the 1972 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 1972.
Y diwrnod penodedig
2 
31 Mawrth 2015 yw’r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn i rym y darpariaethau a ganlyn yn Neddf 2012—
(a) adran 1 (trosolwg);
(b) adran 2 (is-ddeddfau ar gyfer rheolaeth dda a llywodraeth ac atal niwsansau);
(c) adran 3 (ystyr “awdurdod deddfu”);
(d) adran 4 (dirymu gan awdurdod deddfu);
(e) adran 5 (dirymu gan Weinidogion Cymru);
(f) adran 6 (is-ddeddfau pan na fo cadarnhad yn ofynnol) a Rhan 1 o Atodlen 1;
(g) adran 7 (is-ddeddfau pan fo cadarnhad yn ofynnol);
(h) adran 8 (materion ffurfiol, cychwyn a chyhoeddi is-ddeddfau);
(i) adran 10 (tramgwyddau yn erbyn is-ddeddfau);
(j) adran 11 (is-ddeddfau adran 2; pwerau ymafael etc);
(k) adran 12 (y pŵer i gynnig cosbau penodedig am dramgwyddau yn erbyn is-ddeddfau penodol) i’r graddau nad yw eisoes wedi ei chychwyn a Rhan 2 o Atodlen 1;
(l) adran 13 (swm cosb benodedig) i’r graddau nad yw eisoes wedi ei chychwyn;
(m) adran 14 (y pŵer i ofyn am enw a chyfeiriad mewn cysylltiad â chosb benodedig);
(n) adran 15 (y defnydd o dderbyniadau am gosbau penodedig);
(o) adran 17 (Swyddogion Cymorth Cymunedol etc);
(p) adran 18 (canllawiau) i’r graddau nad yw eisoes wedi ei chychwyn;
(q) adran 19 (tystiolaeth o is-ddeddfau); ac
(r) adran 20 (diwygiadau canlyniadol) a pharagraffau 1 i 8, 9(1) i (3), (5) a 10 i 18 o Atodlen 2.
Darpariaethau trosiannol ac arbedion
3 

(1) Er i adrannau 2, 4, 6, 7, 8 ac 20 o Ddeddf 2012, ac Atodlenni 1 a 2 iddi, ddod i rym—
(a) nid yw adrannau 2, 4, 6 a 7(3) i (9) ac 8(3) o’r Ddeddf honno, ac Atodlen 2 iddi, yn gymwys i is-ddeddfau a ddisgrifir ym mharagraff (2); a
(b) mae adran 236(3), (4) i (7) ac (11) o Ddeddf 1972 yn gymwys i is-ddeddfau a ddisgrifir yn y paragraff hwnnw.
(2) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i is-ddeddfau y mae adrannau 235, 236 a 236B o Ddeddf 1972 yn gymwys iddynt, os cyn y diwrnod penodedig—
(a) bod un neu ragor o’r camau a ganlyn wedi eu cymryd mewn perthynas â hwy—
(i) bod yr awdurdod deddfu sy’n gwneud yr is-ddeddfau wedi rhoi hysbysiad, yn unol ag adran 236(4) o Ddeddf 1972, o’i fwriad i wneud cais am gadarnhad o’r is-ddeddfau yn un neu ragor o’r papurau newydd lleol sy’n cylchredeg yn yr ardal y mae’r is-ddeddfau i fod yn gymwys iddi; neu
(ii) bod copi o’r is-ddeddfau wedi ei adneuo, yn unol ag adran 236(5) o Ddeddf 1972, yn swyddfa’r awdurdod deddfu sy’n gwneud yr is-ddeddfau; a
(b) bod yr awdurdod cadarnhau heb gadarnhau’r is-ddeddf; neu
(c) bod yr awdurdod cadarnhau wedi cadarnhau’r is-ddeddf ond nad yw’r is-ddeddf eto wedi dod yn weithredol.
Leighton Andrews
Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, un o Weinidogion Cymru
25 Mawrth 2015