
2015 Rhif 1020 (Cy. 73)
Landlord A Thenant, Cymru
Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2015
Gwnaed 27 Mawrth 2015
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 31 Mawrth 2015
Yn dod i rym 21 Ebrill 2015
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan baragraff 4 o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2015, mae’n gymwys o ran Cymru, a daw i rym ar 21 Ebrill 2015.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “ardaloedd llai ffafriol” (“less favoured areas”) yw tir dan anfantais neu dir dan anfantais ddifrifol;
 mae i “hectar cymwys” yr un ystyr a roddir i “eligible hectare” yn Erthygl 34(2) o Reoliad y Cyngor 73/2009;
 ystyr “mapiau dynodedig” (“designated maps”) yw’r ddwy gyfrol o fapiau dyddiedig 20 Mai 1999, sydd wedi eu rhifo 1 a 2, y naill gyfrol a’r llall wedi eu marcio â “Volume of maps of less favoured farming areas in Wales” ac â rhif y gyfrol, ac sydd wedi eu llofnodi gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru a’u hadneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ;
 ystyr “Rheoliad y Cyngor 73/2009” (“Council Regulation 73/2009”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 73/2009 sy’n sefydlu rheolau cyffredin ar gyfer cynlluniau cymorth uniongyrchol i ffermwyr o dan y polisi amaethyddol cyffredin, ac yn sefydlu cynlluniau cymorth penodol i ffermwyr ac yn diwygio ac yn diddymu Rheoliadau penodol;
 ystyr “tir dan anfantais” (“disadvantaged land”) (ac eithrio yn yr ymadrodd “tir dan anfantais ddifrifol”) yw unrhyw ardal o dir sydd wedi ei lliwio’n las ar y mapiau dynodedig; ac
 ystyr “tir dan anfantais ddifrifol” (“severely disadvantaged land”) yw’r ardal o dir sydd wedi ei lliwio’n binc ar y mapiau dynodedig.
Asesu gallu cynhyrchiol tir
2 

(1) Mae paragraffau (2) a (3) yn cael effaith at y diben o asesu gallu cynhyrchiol uned o dir amaethyddol a leolir yng Nghymru, er mwyn penderfynu a yw’r uned honno’n uned fasnachol o dir amaethyddol o fewn ystyr “commercial unit of agricultural land” ym mharagraff 3(1) o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986.
(2) Os gellir defnyddio’r tir dan sylw, pan ffermir ef dan reolaeth gymwys, i gynhyrchu unrhyw dda byw, cnwd âr fferm, cnwd garddwriaethol yn yr awyr agored, neu ffrwythau fel y crybwyllir yn unrhyw un o’r cofnodion 1 i 3 yng ngholofn 1 yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn, yna—
(a) yr uned gynhyrchu a ragnodir o ran y defnydd hwnnw o’r tir fydd yr uned yn y cofnod yng ngholofn 2 yn yr Atodlen honno gyferbyn â’r cofnod hwnnw, a
(b) y swm a bennir, ar gyfer y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar 12 Medi 2014, yn incwm blynyddol net o’r uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw fydd y swm yn y cofnod yng ngholofn 3 o’r Atodlen honno gyferbyn â’r cofnod hwnnw fel y’i darllenir ynghyd ag unrhyw nodyn perthnasol i’r Atodlen honno.
(3) Os yw tir sy’n gallu cynhyrchu incwm blynyddol net, pan ffermir ef dan reolaeth gymwys yn hectar cymwys yn 2013 (gweler cofnod 4 yng ngholofn 1), yna—
(a) yr uned gynhyrchu a ragnodir o ran y defnydd hwnnw o’r tir fydd yr uned yn y cofnod yng ngholofn 2 o’r Atodlen honno gyferbyn â’r cofnod hwnnw, a
(b) y swm a bennir, ar gyfer y cyfnod o 12 mis yn dechrau ar 12 Medi 2014, yn incwm blynyddol net o’r uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw fydd y swm yn y cofnod yng ngholofn 3 yn yr Atodlen honno gyferbyn â’r cofnod hwnnw.
Dirymu
3 
Dirymir Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2014.
Rebecca Evans
Y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, o dan awdurdod y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru
27 Mawrth 2015
YR ATODLEN
UNEDAU CYNHYRCHU RHAGNODEDIG A PHENNU INCWM BLYNYDDOL NET
Erthygl 2


Colofn 1Defnydd ffermio Colofn 2Uned gynhyrchu Colofn 3Incwm blynyddol net o’r uned gynhyrchu (£)
1. Da byw
Buchod godro buwch 530
Buchod bridio cig eidion: ar dir mewn ardal lai ffafriol buwch –82
ar dir arall buwch –39
Gwartheg pesgi cig eidion (lled-arddwys) y pen 40
Buchod llaeth i lenwi bylchau y pen 102
Mamogiaid: ar dir mewn ardal lai ffafriol mamog –17
ar dir arall mamog –4
Ŵyn stôr (gan gynnwys ŵyn benyw a werthir fel hesbinod) y pen 4.70
Moch: hychod a banwesod torrog hwch neu fanwes 220
moch porc y pen 7.50
moch torri y pen 10.40
moch bacwn y pen 13.10
Dofednod: ieir dodwy aderyn 3.20
brwyliaid aderyn 0.50
cywennod ar ddodwy aderyn 0.30
Tyrcwn Nadolig aderyn 4.70
2. Cnydau âr fferm
Haidd hectar 127
Ffa hectar 290
Rêp had olew hectar 242
Pys sych hectar 100
Tatws: cynnar cyntaf hectar 1700
prif gnwd (gan gynnwys hadyd) hectar 3610
Betys siwgr hectar 750
Gwenith hectar 400
3. Cnydau garddwriaethol awyr agored a ffrwythau
Ffrwythau’r berllan hectar 3100
Ffrwythau meddal hectar 9780
4. Hectarau cymwys
Tir a oedd, yn 2013, yn hectar cymwys at ddibenion Rheoliad y Cyngor 73/2009 tir dan anfantais ddifrifol hectar 95.07
tir dan anfantais hectar 126.67
pob tir arall hectar 63.16

