
2014 Rhif 910 (Cy. 89)
Landlord A Thenant, Cymru
Rheoliadau Tenantiaethau Sicr a Meddianaethau Amaethyddol Sicr (Ffurflenni) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2014
Gwnaed 2 Ebrill 2014
Yn dod i rym 4 Ebrill 2014
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 13(2) a 45(5) o Ddeddf Tai 1988 ac a freiniwyd bellach yng Ngweinidogion Cymru i’r graddau eu bod yn arferadwy o ran Cymru, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tenantiaethau Sicr a Meddianaethau Amaethyddol Sicr (Ffurflenni) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2014.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 4 Ebrill 2014.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â mangreoedd yng Nghymru.
Diwygio Ffurflenni Rhagnodedig Cymraeg
2 
Yn yr Atodlen i Reoliadau Tenantiaethau Sicr a Meddianaethau Amaethyddol Sicr (Ffurflenni) 1997 (Ffurflenni a ragnodir at ddibenion Rhan I o Ddeddf Tai 1988)—
(a) ym mharagraff 2 o destun Cymraeg y Canllawiau i Ffurflen 4D (hysbysiad landlord yn cynnig rhent newydd ar gyfer tenantiaeth gyfnodol sicr mangreoedd yng Nghymru) hepgorer o “Dylech hefyd hysbysu” i “yn hawlio budd-dal” ac yn ei le rhodder—“Mae’n ofynnol i chi hefyd hysbysu’r swyddfa Budd-daliadau Tai yn eich awdurdod lleol os ydych yn hawlio Budd-dal neu’r Adran Gwaith a Phensiynau os ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol. Mae gwefan Gov.UK yn rhoi cyngor pellach: https://www.gov.uk”; a
(b) ym mharagraff 2 o destun Cymraeg y Canllawiau i Ffurflen 4E (hysbysiad landlord neu drwyddedwr yn cynnig rhent neu ffi’r drwydded newydd ar gyfer meddiannaeth amaethyddol sicr mangreoedd yng Nghymru) hepgorer o “Dylech hefyd hysbysu” i “yn hawlio budd-dal” ac yn ei le rhodder—“Mae’n ofynnol i chi hefyd hysbysu’r swyddfa Budd-daliadau Tai yn eich awdurdod lleol os ydych yn hawlio Budd-dal neu’r Adran Gwaith a Phensiynau os ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol. Mae gwefan Gov.UK yn rhoi cyngor pellach: https://www.gov.uk”.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Tai ac Adfywio,
un o Weinidogion Cymru
2 Ebrill 2014