
2014 Rhif 890 (Cy. 88)
Archwilio Cyhoeddus, Cymru
Gorchymyn Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 (Corff Cyfrifwyr Ewropeaidd Cymeradwy) 2014
Gwnaed 1 Ebrill 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2 Ebrill 2014
Yn dod i rym 23 Ebrill 2014
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 19(9) a 30 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 (Corff Cyfrifwyr Ewropeaidd Cymeradwy) 2014 a daw i rym ar 23 Ebrill 2014.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Corff cyfrifwyr Ewropeaidd cymeradwy
2 

(1) Mae pob un o’r cyrff a grybwyllir ym mharagraff (2) yn gyrff cyfrifwyr Ewropeaidd cymeradwy at ddibenion adran 19(9) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013.
(2) Dyma’r cyrff y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)—
(a) y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth; a
(b) Sefydliad Siartredig y Cyfrifwyr Rheoli.
Jane Hutt
Y Gweinidog Cyllid,
un o Weinidogion Cymru
1 Ebrill 2014