
2014 Rhif 825 (Cy. 83)
Treth Gyngor, Cymru
Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2014
Gwnaed 25 Mawrth 2014
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 13A(4), 14A, 14B, 14C, 14D a 113(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 a pharagraff 6 o Atodlen 1B iddi.

Yn unol ag adrannau 13A(8) a 14D(3) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a chymeradwywyd ef ganddo drwy benderfyniad.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2014 a deuant i rym drannoeth y diwrnod y’u gwneir.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Darganfod Twyll a Gorfodi) (Cymru) 2013
2 

(1) Mae Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Darganfod Twyll a Gorfodi) (Cymru) 2013, wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli)—
(a) yn y diffiniad o “y Cynllun Diofyn”, yn lle “Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2012” rhodder “Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013”; a
(b) yn y diffiniad o “y Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig”, yn lle “Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2012” rhodder “Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013”.
Darpariaeth arbed
3 
Nid yw rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn cael effaith o ran unrhyw geisiadau a wneir neu ostyngiadau a ddyfernir yn unol â darpariaethau cynllun a wnaed gan awdurdod bilio yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2012, na chynllun sy’n gymwys yn ddiofyn ar 1 Ebrill 2013 yn unol â pharagraff 6(1)(e) o Atodlen 1B i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.
Diwygio Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013
4 

(1) Mae Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli), yn y testun Cymraeg, ym mharagraff (c) o’r diffiniad o “ysbyty annibynnol”, yn lle “gwasanaeth gofal iechyd” rhodder “ysbyty”.
Diwygio Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013
5 

(1) Mae’r cynllun a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff 2(1) (dehongli), yn y testun Cymraeg, ym mharagraff (c) o’r diffiniad o “ysbyty annibynnol” yn lle “gwasanaeth gofal iechyd” rhodder “ysbyty”.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, un o Weinidogion Cymru
25 Mawrth 2014