
2014 Rhif 666 (Cy. 73)
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Rheoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) (Asesu Adnoddau) a Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2014
Gwnaed 14 Mawrth 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 17 Mawrth 2014
Yn dod i rym 7 Ebrill 2014
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 22(4) a (5) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, a thrwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 2(2), 7(2), 12(2) a 17(2) o Fesur Codi Ffioedd am Wasanaethau Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2010, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn—
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) (Asesu Adnoddau) a Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2014.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 7 Ebrill 2014 2014.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
RHAN 1 Symiau at Anghenion Personol
Y symiau y mae eu hangen at anghenion personol
2 
Y swm y mae awdurdod lleol i ragdybio bod ei angen ar berson at ei anghenion personol o dan adran 22(4) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 yw £25.00 bob wythnos.
Dirymu
3 
Mae rheoliad 2 o Reoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) a Chymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) (Diwygio) (Cymru) 2013 wedi ei ddirymu.
RHAN 2 Terfyn Cyfalaf
Diwygio’r Terfyn Cyfalaf
4 
Ym mharagraff (2) o reoliad 20A (Terfyn Cyfalaf – Cymru) o Reoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992, yn lle’r ffigur “£23,750” rhodder y ffigur “£24,000”.
RHAN 3 Diwygiadau i’r Rheoliadau Ffioedd Gofal Cymdeithasol
Diwygio Rheoliadau Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Asesu Modd a Phenderfynu Ffioedd) (Cymru) 2011
5 

(1) Mae Rheoliadau Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Asesu Modd a Phenderfynu Ffioedd) (Cymru) 2011 wedi eu diwygio fel a ganlyn—
(2) Yn rheoliad 5 (uchafswm rhesymol y ffi am wasanaeth)—
(a) ym mharagraff (2) yn lle’r ffigur “£50” rhodder y ffigur “£55.00”, a
(b) ym mharagraff (3) yn lle’r ffigur “£50” rhodder y ffigur “£55.00”.
(3) Yn rheoliad 14(4) (proses yr asesiad modd)—
(a) yn is-baragraff (d) ar ôl y geiriau “Lluoedd Arfog” mewnosoder—“a’r Lluoedd Wrth Gefn”; a
(b) ar ddiwedd is-baragraff (d) hepgorer “a” ac ar ôl is-baragraff (d) mewnosoder—“
(da) diystyru £10 o unrhyw daliad incwm gwarantedig goroeswr y cyfeirir ato yn erthygl 29(1)(a) o Orchymyn y Lluoedd Arfog a’r Lluoedd Wrth Gefn (Cynllun Digolledu) 2011 ac, os yw swm y taliad hwnnw wedi ei leihau i lai na £10 gan bensiwn sy’n dod o fewn erthygl 39(1)(a) o’r Gorchymyn hwnnw, gymaint o’r pensiwn hwnnw na fyddai, ynghyd â swm unrhyw daliad incwm gwarantedig goroeswr sydd wedi ei ddiystyru, yn fwy na £10; ac”.
Diwygio Rheoliadau Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Taliadau Uniongyrchol) (Asesu Modd a Phenderfynu ar Ad-daliad neu Gyfraniad) (Cymru) 2011
6 

(1) Mae Rheoliadau Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Taliadau Uniongyrchol) (Asesu Modd a Phenderfynu ar Ad-daliad neu Gyfraniad) (Cymru) 2011 wedi eu diwygio fel a ganlyn—
(2) Yn rheoliad 5 (yr uchafswm rhesymol o ad-daliad neu gyfraniad sy’n daladwy)—
(a) ym mharagraff (1) yn lle’r ffigur “£50” rhodder y ffigur “£55.00”, a
(b) ym mharagraff (2) yn lle’r ffigur “£50” rhodder y ffigur “£55.00”.
(3) Yn rheoliad 16(4) (proses yr asesiad modd) ar ddiwedd is-baragraff (d) hepgorer “a” ac ar ôl is-baragraff (d) mewnosoder—“
(da) diystyru £10 o unrhyw daliad incwm gwarantedig goroeswr y cyfeirir ato yn erthygl 29(1)(a) o Orchymyn y Lluoedd Arfog a’r Lluoedd Wrth Gefn (Cynllun Digolledu) 2011 ac, os yw swm y taliad hwnnw wedi ei leihau i lai na £10 gan bensiwn sy’n dod o fewn erthygl 39(1)(a) o’r Gorchymyn hwnnw, gymaint o’r pensiwn hwnnw na fyddai, ynghyd â swm unrhyw daliad incwm gwarantedig goroeswr sydd wedi ei ddiystyru, yn fwy na £10; ac”.
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
14 Mawrth 2014