
2014 Rhif 523 (Cy. 64)
Gwasanaethau Tân Ac Achub, Cymru
Pensiynau, Cymru
Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Cyfraniadau) (Diwygio) 2014
Gwnaed 4 Mawrth 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 7 Mawrth 2014
Yn dod i rym 1 Ebrill 2014

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 34, 60 a 62 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004.

Yn unol ag adran 34(5) o’r Ddeddf honno, ymgynghorodd Gweinidogion Cymru â’r personau hynny a oedd yn briodol, yn eu barn hwy, cyn gwneud y Gorchymyn.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Cyfraniadau) (Diwygio) 2014.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2014.
Diwygio Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007
2 
Mae Atodlen 1 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007 (lle y mae Cynllun Pensiwn Newydd y Diffoddwyr Tân (Cymru) wedi ei nodi), wedi cael ei diwygio yn unol ag erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn.
3 
Yn lle’r Tabl ym mharagraff 5 o Atodiad A1 rhodder y Tabl canlynol—“

Tâl pensiynadwy Y gyfradd gyfrannu o 1 Ebrill 2014 ymlaen
Hyd at a chan gynnwys £15,000 8.5% o’r tâl pensiynadwy
Mwy na £15,000 a hyd at a chan gynnwys £21,000 9.4% o’r tâl pensiynadwy
Mwy na £21,000 a hyd at a chan gynnwys £30,000 10.4% o’r tâl pensiynadwy
Mwy na £30,000 a hyd at a chan gynnwys £40,000 10.9% o’r tâl pensiynadwy
Mwy na £40,000 a hyd at a chan gynnwys £50,000 11.2% o’r tâl pensiynadwy
Mwy na £50,000 a hyd at a chan gynnwys £60,000 11.3% o’r tâl pensiynadwy
Mwy na £60,000 a hyd at a chan gynnwys £100,000 11.7% o’r tâl pensiynadwy
Mwy na £100,000 a hyd at a chan gynnwys £120,000 12.1% o’r tâl pensiynadwy
Mwy na £120,000 12.5% o’r tâl pensiynadwy.”
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, un o Weinidogion Cymru
4 Mawrth 2014