
2014 Rhif 522 (Cy. 63)
Gwasanaethau Tân Ac Achub, Cymru
Pensiynau, Cymru
Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) (Cyfraniadau) (Diwygio) 2014
Gwnaed 4 Mawrth 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 7 Mawrth 2014
Yn dod i rym 1 Ebrill 2014
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 26(1) o Ddeddf Gwasanaethau Tân 1947 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) (Cyfraniadau) (Diwygio) 2014.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2014.
Diwygio Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992
2 
Mae Atodlen 2 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992 (lle y mae Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) wedi ei nodi), fel y mae’n cael effaith yng Nghymru, wedi cael ei diwygio yn unol ag erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn.
3 
Yn lle’r Tabl ym mharagraff 3 o Ran A1 o Atodlen 8 rhodder y Tabl canlynol—“

Pensionable Pay Contribution rate from 1 April 2014
Up to and including £15,000 11.0%
More than £15,000 and up to and including £21,000 12.2%
More than £21,000 and up to and including £30,000 14.2%
More than £30,000 and up to and including £40,000 14.7%
More than £40,000 and up to and including £50,000 15.2%
More than £50,000 and up to and including £60,000 15.5%
More than £60,000 and up to and including £100,000 16.0%
More than £100,000 and up to and including £120,000 16.5%
More than £120,000 17.0%.”
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, un o Weinidogion Cymru
4 Mawrth 2014