
2014 Rhif 519 (Cy. 61)
Hadau, Cymru
Rheoliadau Hadau a Deunyddiau Planhigion Llysieuol (Newidiadau i’r Gyfundrefn Enwi) (Cymru) 2014
Gwnaed 5 Mawrth 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru. 7 Mawrth 2014
Yn dod i rym 31 Mawrth 2014

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 o ran polisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 16(1), (1A), (2), (3), (4), (5) a (5A) a 36 o Ddeddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 1964(, wedi ymgynghori â chynrychiolwyr y buddiannau hynny sy’n ymddangos yn berthnasol yn unol ag adran 16(1) o’r Ddeddf honno.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac ymddengys i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i’r cyfeiriad sydd yn y Rheoliadau hyn at Atodlen II i Gyfarwyddeb y Cyngor 2008/72/EC ar farchnata deunydd lluosogi a phlannu llysieuol, ac eithrio hadau, gael ei ddehongli fel cyfeiriad at yr Atodlen honno fel y’i diwygiwyd o bryd i’w gilydd.
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Hadau a Deunyddiau Planhigion Llysieuol (Newidiadau i’r Gyfundrefn Enwi) (Cymru) 2014.
(2) Maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 31 Mawrth 2014.
Diwygio Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 2012
2 

(1) Mae Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 2012 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yng ngholofn 1 (Planhigion y mae’r Rheoliadau yn gymwys iddynt) o Atodlen 1 (Hadau y mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt) ar gyfer “Lycopersicon esculentum Mill”, rhodder—“Solanum lycopersicum L.”.
Diwygio Rheoliadau Marchnata Deunyddiau Planhigion Llysieuol 1995
3 

(1) Mae Rheoliadau Marchnata Deunyddiau Planhigion Llysieuol 1995 wedi eu diwygio mewn perthynas â Chymru fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 (Dehongli)—
(a) Hepgorer y diffiniad o “Directive 92/33/EEC”;
(b) Ar ôl y diffiniad o “Directive 93/61/EEC”, mewnosoder—“
 “Directive 2008/72/EC” means Council Directive 2008/72/EC on the marketing of vegetable propagating and planting material, other than seed;”
(3) Yn rheoliad 3(1) (Deunyddiau planhigion y mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt), yn lle is-baragraffau (a) a (b) rhodder—“
(a) plant material of the genera and species set out in Annex II as amended from time to time, to Directive 2008/72/EC and their hybrids; and
(b) rootstocks and other parts of plants of other genera or species and their hybrids if plant material of a genus or species set out in Annex II, as amended from time to time, to Directive 2008/72/EC or of a hybrid of such a genus or species is or is to be grafted on to them.”.
(4) Yn rheoliad 5(d) (Gofynion ansawdd ar gyfer deunyddiau planhigion), yn lle is-baragraff (ii) rhodder—“
(ii) it belongs to a variety officially accepted in a member State in accordance with Article 9 of Directive 2008/72/EC; and”.
Alun Davies
un o Weinidogion Cymru
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd,
5 Mawrth 2014