
2014 Rhif 462 (Cy. 55)
Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru
Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) 2014
Gwnaed 1 Mawrth 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 4 Mawrth 2014
Yn dod i rym 1 Ebrill 2014
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 128, 129, 130, a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) 2014 sy’n dod i rym ar 1 Ebrill 2014.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “y Rheoliadau Optegol” (“the Optical Regulations”) yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997.
Diwygio’r Atodlenni i’r Rheoliadau Optegol
2 

(1) Mae Atodlenni 1 i 3 i’r Rheoliadau Optegol wedi eu diwygio yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Yn Atodlen 1 (codau llythrennau ac wynebwerthoedd talebau – cyflenwi ac amnewid) yng ngholofn (3) o’r tabl (wynebwerth taleb), yn lle pob swm a bennir yng ngholofn (1) o dabl 1 isod rhodder y swm a bennir mewn perthynas ag ef yng ngholofn (2) o’r tabl isod:

Tabl 1
(1) Swm Blaenorol (2) Swm Newydd
£37.50 £38.30
£57.00 £58.10
£83.40 £85.10
£188.40 £192.20
£64.80 £66.10
£82.40 £84.00
£106.90 £109.00
£207.20 £211.30
£192.90 £196.80
£54.70 £55.80
(3) Yn Atodlen 2 (prismau, arlliwiau, lensys ffotocromaidd, sbectolau bach a sbectolau arbennig, a theclynnau cymhleth)—
(a) ym mharagraff 1(1)(a), yn lle “£12.20” rhodder “£12.40”;
(b) ym mharagraff 1(1)(b), yn lle “£14.70” rhodder “£15.00”;
(c) ym mharagraff 1(1)(c), yn lle “£4.10” rhodder “£4.20”;
(d) ym mharagraff 1(1)(d), yn lle “£4.60” rhodder “£4.70”;
(e) ym mharagraff 1(1)(e), yn lle “£61.80”, “£54.75” a “£29.60” rhodder “£63.00”, “£55.80” a “£30.20” yn eu trefn;
(f) ym mharagraff 1(1)(g), yn lle “£61.80” rhodder “£63.00”;
(g) ym mharagraff 2(a), yn lle “£14.10” rhodder “£14.40”; a
(h) ym mharagraff 2(b), yn lle “£35.90” rhodder “£36.60”.
(4) Yn lle Atodlen 3 (gwerthoedd talebau - trwsio), rhodder yr Atodlen 3 a nodir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn.
Darpariaeth Drosiannol
3 
Dim ond mewn perthynas â thaleb a dderbynnir neu a ddefnyddir yn unol â rheoliad 12 neu reoliad 17 o’r Rheoliadau Optegol ar 1 Ebrill 2014 neu ar ôl hynny y mae’r symiau a amnewidir gan reoliad 2 yn gymwys.
Mark Drakeford
Y Gweinidog lechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
1 Mawrth 2014
YR ATODLEN
Atodlen 3 i’r Rheoliadau Optegol fel y’i hamnewidir gan y Rheoliadau hyn
Rheoliad 2(4)
“
SCHEDULE 3
VoucherValues Repair
Regulation 19(2) and (3)


(1)Nature of Repair (2)Letter of Codes - Values
 A B C D E F G H I
 £ £ £ £ £ £ £ £ £
Repair or replacement of one lens 11.95 21.85 35.35 88.90 25.85 34.80 47.30 98.45 91.20
Repair or replacement of two lenses 23.90 43.70 70.70 177.80 51.70 69.60 94.60 196.90 182.40
Repair or replacement of: the front of a frame 12.25 12.25 12.25 12.25 12.25 12.25 12.25 12.25 12.25
a side of a frame 7.25 7.25 7.25 7.25 7.25 7.25 7.25 7.25 7.25
the whole frame 14.40 14.40 14.40 14.40 14.40 14.40 14.40 14.40 14.40”