
2014 Rhif 460 (Cy. 53)
Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru
Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diwygiadau Canlyniadol Diwygio Lles) (Cymru) 2014
Gwnaed 1 Mawrth 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 4 Mawrth 2014
Yn dod i rym 1 Ebrill 2014
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 71, 128, 129, 130, 131, a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diwygiadau Canlyniadol Diwygio Lles) (Cymru) 2014 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2014.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “Rheoliadau 1986” (“the 1986 Regulations”) yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986;
 ystyr “Rheoliadau 1997” (“the 1997 Regulations”) yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997; ac
 ystyr “Rheoliadau 2007” (“the 2007 Regulations”) yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) 2007.
Diwygio Rheoliadau 1986
3 
Yn rheoliad 13(2)(q) o Reoliadau 1986, yn lle “29 April 2013” rhodder “1 April 2014” ac yn lle “31 March 2014” rhodder “31 March 2015”.
Diwygio Rheoliadau 1997
4 
Yn rheoliad 8(3)(q) o Reoliadau 1997, yn lle “29 April 2013” rhodder “1 April 2014” ac yn lle “31 March 2014” rhodder “31 March 2015”.
Diwygio Rheoliadau 2007
5 
Yn rheoliad 5(1)(aa) o Reoliadau 2007 yn lle “29 Ebrill 2013” rhodder “1 Ebrill 2014” ac yn lle “31 March 2014” rhodder “31 Mawrth 2015”.
Mark Drakeford
Y Gweinidog lechyd a Gwasanethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
1 Mawrth 2014